Fe fydd y Ffair Nadolig Fictoraidd flynyddol yn dychwelyd unwaith eto ddydd Iau 9 Rhagfyr pan fydd yn agor i’r cyhoedd am 12pm ar ôl dwy flynedd yn sgil Pandemig Covid-19.
Mae llawer o edrych ymlaen at y digwyddiad yma yng nghalendr y dref ac mae’n denu miloedd o siopwyr blwyddyn ar ôl blwyddyn. Yn 2021 fe fydd dros 100 o stondinau o Sgwâr y Frenhines hyd at, a thu mewn i Eglwys San Silyn.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Mae dros 100 o stondinau eleni yn gwerthu detholiad enfawr o anrhegion a danteithion, yn ogystal â diddanwyr stryd Fictoraidd a reidiau a stondinau traddodiadol.
Fe fydd yna lawer o fwydydd poeth, ffres i’w blasu yn cynnwys selsig Almaeneg, mins peis, gwin poeth a chnau castan poeth.
Yr hyn sy’n gwneud y farchnad yma’n arbennig iawn ydi ei bod yn dilyn tywydd mor amrywiol yn syth mewn i Eglwys San Silyn – nefoedd gynnes ar noson oer o aeaf.
Y tu mewn i San Silyn mae mwy o stondinau a lluniaeth, cerddoriaeth a charolau ac mae miloedd o ymwelwyr yn cael eu swyno gan yr hyn sydd o’u cwmpas eu bod yn achub ar y cyfle i eistedd a mwynhau yr awyrgylch am ychydig.
Mae’n achlysur na ddylid ei golli a bydd stondinwyr yn falch o weld nifer o ymwelwyr hen a newydd.
Peidiwch ag anghofio’r dyddiad, 9 Rhagfyr 2021, rhwng 12pm a 8pm.
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL