Mae Gofalwn Cymru’n cynnal Ffair Swyddi am ddim ar 1 Hydref er mwyn amlygu’r amrywiaeth helaeth o swyddi gofal sydd ar gael yn Wrecsam a ledled gogledd Cymru.
Cynhelir y ffair swyddi rhwng 12 a 3 a gallwch gofrestru yma.
Mae yno gyfleoedd ymhob maes gofal, gan gynnwys cefnogi pobl yn eu cartrefi eu hunain gyda thasgau beunyddiol, mynd gyda phobl i ganolfannau dydd neu grwpiau gweithgareddau, mynd â nhw i nofio neu i’r sinema, a gofalu am bobl ag anghenion iechyd cymhleth mewn cartrefi preswyl neu lety â chymorth.
Mae yno bobl mewn cymunedau ar hyd a lled Wrecsam sydd rŵan hyn yn aros i ofalwyr gael eu recriwtio i’w helpu i fyw’n annibynnol o ddydd i ddydd.
Mae hynny’n golygu y gallech ymgeisio am waith gyda phlant, pobl ifanc, oedolion bregus a’u teuluoedd a chael swydd sy’n hyblyg, yn gallu gweddu gyda theulu ac amgylchiadau eraill a rhoi boddhad mawr.
Rydym yn darparu gofal yn uniongyrchol i unigolion mewn amrywiaeth o leoliadau, o gefnogi pobl yn eu cartrefi eu hunain gyda thasgau beunyddiol, i fynd gyda phobl i ganolfannau dydd neu grwpiau gweithgareddau, mynd â nhw i nofio neu i’r sinema, i ofalu am bobl ag anghenion iechyd cymhleth mewn cartrefi preswyl neu lety â chymorth.
“Gall gofalwr wneud gwahaniaeth enfawr”
Meddai’r Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Gall gofalwr wneud gwahaniaeth enfawr ac mae Gofalwn Cymru, ein staff a’n darparwyr gofal wrthi’n gwneud eu gorau glas i recriwtio pobl i’r swyddi hyn.
Os oes gennych chi ddiddordeb, cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad ar unwaith. Gallai hynny fod yn ddechrau pennod newydd yn eich bywyd a gyrfa gwerth chweil.”
Mae’r swyddi ar gael ar wefan Gofalwn Cymru, sydd hefyd yn cynnwys fideos, gwybodaeth a chyngor gan y rheiny sy’n gweithio yn y sector gofal iechyd ar hyn o bryd.
Mae’r swyddi ar gael ar wefan Gofalwn Cymru, sydd hefyd yn cynnwys fideos, gwybodaeth a chyngor gan y rheiny sy’n gweithio yn y sector gofal iechyd ar hyn o bryd.
Mae’n werth cael golwg arno, ac rydym yn siŵr y gwelwch rywbeth a fydd yn gweddu eich amgylchiadau personol.
Cofrestrwch ar gyfer y ffair swyddi ar 1 Hydref yma.
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN