Mae corff cynyddol o dystiolaeth yn dod i’r amlwg ar effaith cyfyngiadau Covid-19 ar blant a phobl ifanc 0-25 oed. Mae Llywodraeth Cymru eisiau cefnogi cenhedlaeth y dyfodol gyda’u llesiant cymdeithasol, emosiynol, meddyliol a chorfforol dros fisoedd y gaeaf.
Mae Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth Wrecsam wedi derbyn cyllid i gefnogi’r bobl ifanc hyn trwy ddarparu gweithgareddau perthnasol sy’n briodol i’w hoedran.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Bydd rhaglen lawn yn cael ei chyflwyno drwy gydol mis Chwefror a mis Mawrth; bydd rhai gweithgareddau yn agored i’r cyhoedd a bydd gweithgareddau eraill yn cael eu teilwra ar gyfer grwpiau penodol.
Byddant yn cymryd lle ym mhob un o’n llyfrgelloedd. Gwyliwch y man hwn a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol am ragor o fanylion. Os hoffech wybod mwy am y prosiect hwn, ewch i’r wefan www.readingagency.org.uk/winterofwellbeing
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL