Ydych chi’n defnyddio bin gwyrdd yn rheolaidd?
Os ydych chi, darllenwch hwn…
Pan wnaethom gynnal ein hymarfer Penderfyniadau Anodd yn y gaeaf 2017, un o’r cynigion a gyflwynwyd i’r cyhoedd oedd codi ffi am finiau gwyrdd ychwanegol – a weithredwyd yn ddiweddarach.
GALL Y DDAU GAM SYML YMA TROI CHI MEWN I ARCHARWR AILGYLCHU!
Ond daeth llawer ohonoch yn ôl yn dweud er mwyn gwneud defnydd gwell o adnoddau, y gallem leihau’r nifer o gasgliadau bin gwyrdd yn ystod y gaeaf, pan mae’r galw am finiau gwyrdd yn draddodiadol isel.
Rydym wedi bod drwy’r niferoedd, a faint o wastraff gardd mae bobl yn ei adael ar ymyl palmant ac mae casgliadau yn tueddu i ostwng yn sylweddol ym mis Rhagfyr ac nid yw’n cynyddu eto tan fis Mawrth pan mae pobl yn dechrau gwneud mwy o arddio yn y gwanwyn.
Felly rydym yn ystyried lleihau’r casgliadau bin gwyrdd i un y mis yn ystod misoedd Rhagfyr, Ionawr a Chwefror yn hytrach na’r casgliadau arferol bob pythefnos.
Ar 23 Hydref, cynhelir cyfarfod arbennig o’r Bwrdd Gweithredol, a bydd y newidiadau posibl i gasgliadau bin gwyrdd yn un o’r eitemau a drafodir.
Beth am y biniau gwyrdd ychwanegol?
Os ydych wedi talu am fin gwyrdd ychwanegol, o dan y cynigion hyn byddant yn parhau i gael eu casglu yr un amser â’ch bin gwyrdd am ddim – ni fydd y newid yn nifer y casgliadau yn effeithio ar hynny. Byddwch yn parhau i gael gwagu’ch biniau gwyrdd.
Sut fyddwn i’n cadw golwg ar gasgliadau?
Os bydd y symudiadau hyn yn cael eu cymeradwyo, byddwn yn diweddaru ein rhybuddion e-bost FyNiweddariad i hysbysu pobl pryd ddylai eu biniau gwyrdd fynd allan yn ystod misoedd y gaeaf.
A byddwn yn rhoi digon o rybudd ar gyfryngau cymdeithasol a blog Newyddion Cyngor Wrecsam cyn i’r symud ddod i rym, i sicrhau nad yw pobl yn methu’r dyddiad casglu.
Sut i fod yn archarwr ailgylchu…mewn dau gam syml.
DERBYNIWCH AWGRYMIADAU AILGYLCHU