Mae arian o gronfa argyfwng o £400,000 bellach ar gael i gybiau chwaraeon nid er elw yng Nghymru i’w helpu i fod yn gynaliadwy ac yn rhan bwysig o’n cymunedau yn ystod sefyllfa bresennol Coronafeirws Covid19.
Gall clybiau chwaraeon wneud cais am hyd at £5,000.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Caiff y broses ymgeisio ei gweinyddu gan Chwaraeon Cymru a gallwch wneud cais ar-lein on this link: https://www.chwaraeon.cymru/cynnwys/emergency-relief-fund/
Mae’r arian ar gael gan Lywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru.
Mae Prif Weithredwr, Ian Bancroft ac Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Mark Prif Weithredwr yn cytuno fod yr arian wrth gefn yn hanfodol i glybiau chwaraeon er mwyn parhau i chwarae rhan bwysig yn ein cymunedau: “Fe fydd yr arian yma’n fantais enfawr i’n clybiau chwaraeon sydd yn gweithredu ar sail nid er elw ac sy’n galluogi i bobl o bob oedran yn ein cymunedau elwa. Fe hoffem ddiolch i Lywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru am eu cefnogaeth ac annog cymaint o glybiau â phosibl yn Wrecsam i wneud cais”.
Pwy sy’n gymwys i wneud cais i Gronfa Argyfwng Clybiau Chwaraeon Cymunedol?
Byddwch chi’n gymwys os ydych chi’n glwb chwaraeon gwirfoddol gyda’r meini prawf canlynol:
Prif bwrpas y clwb yw darparu cyfleusterau ar gyfer chwaraeon amatur yng Nghymru a hybu cyfranogiad ynddynt.
Bydd aelodaeth o’r clwb yn agored i unrhyw un sydd â diddordeb yn y gamp pan wneir cais, heb ystyried rhyw, oedran, anabledd, ethnigrwydd, cenedligrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd neu gredoau eraill, ac eithrio o ganlyniad i ofynion y gamp.
Bydd unrhyw incwm dros ben neu elw yn cael ei ail-fuddsoddi yn y clwb. Ni fydd unrhyw warged neu asedau’n cael eu dosbarthu i aelodau neu drydydd partïon.
Ar ôl diddymu’r clwb bydd unrhyw asedau sy’n weddill yn cael eu rhoi neu eu trosglwyddo i glwb chwaraeon cofrestredig arall, elusen gofrestredig neu gorff rheoli’r gamp ar gyfer eu defnyddio ganddynt mewn chwaraeon cymunedol cysylltiedig.
Mae Chwaraeon Cymru wedi ymrwymo i wneud penderfyniadau mor fuan â phosibl a bydd yn diweddaru ymgeiswyr ar eu gwefan (www.chwaraeon.cymru) ac fe delir y clwb cymwys cyn gynted ag y gellir eu prosesu.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19