Os ydych chi wedi bod yn pendroni ynghylch sut y gallwch ennill y £50 a gynigir gan Europe Direct, dyma syniad i roi help llaw i chi.
Os nad ydych wedi clywed, mae Europe Direct yn ymuno gyda Blwyddyn Ewropeaidd Treftadaeth Ddiwylliannol drwy ofyn i chi dynnu llun o rywbeth sy’n dangos treftadaeth Wrecsam ar ei orau. https://newyddion.wrecsam.gov.uk/gwirioniarddiwylliant18/
WEDI GWELD TIPIO ANGHYFREITHLON? GADEWCH I NI WYBOD YN SYTH AC YN HAWDD YMA
Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn rhoi syniadau i chi, ac yr wythnos hon, rydym yn dechrau gyda’r enwocaf ohonynt i gyd… Traphont Ddŵr Pontcysyllte!
Yn ôl yn 2009 daeth y draphont ddŵr a’r gamlas yn Safle Treftadaeth y Byd oherwydd ei werth dros y byd i gyd. Gyda phellter o 11 milltir, fe’i dyluniwyd gan Thomas Telford a William Jessop i ganiatáu i gamlas Llangollen groesi’r Afon Dyfrdwy i wella cysylltiadau masnachol.
Cyflenwyd yr haearn ar gyfer y strwythur o’r Amwythig a Chefn Mawr.
Cymerodd 10 mlynedd i’w chwblhau, ac yn arian heddiw, byddai’r gost yn £3,500,000.
Ydych chi’n meddwl bod y safle yn rhan bwysig o dreftadaeth Wrecsam? Os ydych chi, pam na wnewch chi ei wneud yn un o’r pum llun y gallwch ei anfon fel cais i’r gystadleuaeth?
Wedi gweld tipio anghyfreithlon? Gadewch i ni wybod ar-lein
DDWEDWCH WRTHYM AM DIPIO ANGHYFREITHLON AR-LEIN