Gallwch arbed arian drwy glicio yma!

Na, nid tric yw hwn – gall darllen yr erthygl hon arbed dros £150 i chi!

Mae un o gylchgronau mwyaf poblogaidd y DU, y Radio Times, yn costio £153 y flwyddyn.

Mae darllen Hello! yn costio bron i £120 y flwyddyn ac mae darllenwyr Best yn gwario £70.20 y flwyddyn ar y cylchgrawn hwnnw.

GWNEWCH GAIS AM GLUDIANT I’R YSGOL YM MIS MEDI RŴAN!

Gall dilynwyr chwaraeon wario dros £50 y flwyddyn yr un ar gylchgronau Golf a World Soccer.

Sut hoffech chi gael gafael ar y rhain a channoedd o gylchgronau poblogaidd eraill AM DDIM?

Os oes gennych chi gerdyn llyfrgell, fe allwch chi wneud hynny’n union!

Ewch i wefan llyfrgelloedd Wrecsam a dilynwch ddolen e-gylchgronau y Gwasanaethau Ar-Lein i gychwyn darllen.

A fydd angen cludiant i’r ysgol arnoch ym mis Medi? Gwnewch gais ar-lein rŵan

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://admissions.wrexham.gov.uk/CitizenPortal_Live/Account/Login?ReturnUrl=%2FCitizenPortal_Live%2F%E2%80%9D”] GWNEWCH GAIS AR-LEIN RŴAN [/button]