Mae pobl sydd wedi gweithio i Lywodraeth y DU a’r Fyddin Brydeinig yn Affganistan a’u teuluoedd yn cael eu hadleoli i’r DU gan Lywodraeth Prydain ar frys yn sgil y perygl i’w bywydau yn dilyn enciliad y lluoedd o’r wlad.
Rydym wedi cytuno i gefnogi’r rhaglen hon a byddwn yn cydlynu cefnogaeth adleoli i hyd at 10 teulu yn ardal Wrecsam.
Bydd teuluoedd yn cael eu cefnogi gyda llety yn y sector rhentu preifat pan fyddant yn cyrraedd, bydd y Groes Goch a sefydliadau partner eraill yn darparu cefnogaeth integreiddio a chyflogadwyedd iddynt.
Rydym bellach yn chwilio am lety sy’n addas i deuluoedd yn y sector tai preifat ar gyfer y teuluoedd hyn.
Yn sgil natur frys y cynllun adleoli hwn, rydym yn cymryd y cam anarferol o apelio’n uniongyrchol i unrhyw landlordiaid sydd ag eiddo y maent yn credu fyddai’n addas ar gyfer teuluoedd a gaiff eu hadleoli gysylltu gydag locallettings@wrexham.gov.uk cyn gynted â phosibl i drafod hyn ymhellach.
“Cefnogaeth unfrydol i’r Cynllun Adleoli Affganiaid”
Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae’r cynnig i gymryd rhan yn y Cynllun Adleoli Affganiaid wedi derbyn cefnogaeth unfrydol gan aelodau, a gwyddom y bydd Wrecsam unwaith eto’n croesawu teuluoedd sydd wedi gwneud gymaint i gefnogi ein lluoedd a Llywodraeth Prydain wrth iddynt ymgymryd â’u dyletswyddau tramor. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, peidiwch ag oedi i gysylltu.”
Dywedodd y Cyng. David Griffiths, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog ac Aelod Arweiniol Tai Wrecsam: “Roeddwn yn falch o gefnogi’r cynnig hwn sy’n darparu cefnogaeth sydd wir ei angen i deuluoedd cymwys er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu diogelu yn dilyn eu gwasanaeth i luoedd y DU a Llywodraeth y DU.
“Heb eu cymorth a’u parodrwydd i aberthu eu diogelwch eu hunain, byddai marwolaethau ein lluoedd arfog wedi bod yn llawer uwch. Bydd eu bywydau nhw, a bywydau eu teuluoedd mewn perygl pe na baem yn gallu cynnig lloches iddynt a dangos pa mor ddiolchgar ydym ni o’u gwasanaeth.”
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN