Bu i Ofalwyr Ifanc WCD a Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru gynnal digwyddiad yn ystod gwyliau’r hanner tymor i bawb o bob oed allu dod at ei gilydd, dysgu o brofiadau ei gilydd a chael hwyl.
Ymunodd Wrecsam Egnïol â’r digwyddiad gan ddod â gemau mawr wedi’u llenwi ag aer gyda nhw. Fe wnaeth pawb eu mwynhau, ynghyd â’r disgo distaw a thaith gerdded o amgylch Tŷ Mawr.
Dywedodd un o’r gofalwyr ifanc, “Roedd y digwyddiad yn ardderchog, roedd hi’n wych i allu dod at ein gilydd a chael hwyl, roedd hi’n braf iawn bod y teulu cyfan yn gallu mwynhau’r digwyddiad. Fe wnes i fwynhau’r disgo distaw!!”
Gofalwr di-dâl yw unigolyn sy’n darparu neu’n bwriadu darparu gofal ar gyfer oedolyn neu blentyn anabl. Gall hyn olygu gofalu am aelod o’r teulu neu’n ffrind, na all, oherwydd salwch, anabledd, problem iechyd meddwl neu ddibyniaeth, ymdopi heb eu cefnogaeth.
Os ydych yn ofalwr di-dâl, edrychwch ar y gefnogaeth a’r wybodaeth sydd ar gael ar eich cyfer yn Wrecsam:
- Mae Gofalwyr Ifanc WCD yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth a chyngor i’r holl ofalwyr ifanc yn Wrecsam.
- Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru yn cynnig cefnogaeth, cyngor a gwybodaeth i ofalwyr di-dâl sy’n oedolion yn Wrecsam. Dewch i wybod mwy am y gefnogaeth sydd ar gael.
Niwroamrywiaeth – mae cefnogaeth ar-lein ac adnoddau nawr ar gael (wrecsam.gov.uk)