Mae’r flwyddyn hon yn dathlu 100 mlynedd ers sefydlu’r Lleng Brydeinig Brenhinol a’r apêl pabi.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Fel rhan o’r pen-blwydd arbennig hwn ac i nodi’r achlysur gofynnir i sefydliadau a busnesau i #troiCymru’ngoch.
Bydd balconi Neuadd y Dref yn cael ei oleuo’n goch o 17.00 tan 21.00 bob noson i fyny at, ac yn cynnwys 14 Tachwedd i gofio am y rheiny a gollodd eu bywydau ac i ddangos cefnogaeth i ymgyrch y Lleng Brydeinig Brenhinol.
Dywedodd yr Hyrwyddwr Lluoedd Arfog, y Cynghorydd David Griffiths: “Mae gennym hanes amlwg o gefnogi’r lluoedd arfog yn Wrecsam. Eleni byddwn yn dangos ein cefnogaeth mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys cefnogi’r ymgyrch ‘troi Cymru’n goch.”
Os ydych chi’n chwilio am yrfa newydd ac os hoffech chi helpu pobl yn eich cymuned, ystyriwch swydd gofal cymdeithasol.
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL