Fe fydd Neuadd y Dref yn cael ei oleuo’n felyn a glas nos ‘fory er mwyn nodi blwyddyn ers i luoedd Rwsia ymosod ar Wcráin.
Rydym ni hefyd yn annog pawb i ddilyn y munud o dawelwch cenedlaethol a fydd yn digwydd am 11am.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Roberts, Aelod Arweiniol Partneriaethau a Diogelwch Cymunedol, “Mae nifer o farwolaethau wedi’u hachosi gan y rhyfel hwn yn ystod y deuddeng mis diwethaf ac mae nifer o ffoaduriaid wedi ffoi o’u gwlad a cheisio lloches yng Nghymru ac ar draws Ewrop.
“Mae’r dinistr yn y wlad yn eang a does dim modd y gallwn ni ddychmygu yr hyn y mae’r rhai sy’n ymladd y lluoedd sy’n ymosod yn ei weld ac yn delio ag o’n ddyddiol.
“Fe fydda’ i yn sicr yn nodi’r munud o dawelwch am 11am a ‘dwi’n annog pawb i gymryd amser i adlewyrchu ar ddewrder pobl Wcráin wrth iddynt barhau â’u hymgyrch i gael gwlad rydd.”
“Yma yn Wrecsam rydym wedi croesawu ffoaduriaid o Wcráin, ac fel dinas mewn cenedl o noddfa, fe fyddwn ni’n parhau i groesawu hyd yn oed mwy i’n cartrefi.”
Bydd Neuadd y Dref yn cael ei oleuo am 6pm.
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD