Bydd gwaith yn digwydd ar y gylchfan ar Ffordd Rhiwabon lle mae’n cwrdd â Ffordd y Tylwyth Teg a Ffordd Buddug.
Bydd y gwaith yn digwydd ar 29 Awst a gan fod hon yn ffordd brysur iawn ar adegau, bydd y gwaith yn digwydd yn ystod cyfnodau llai prysur o ran traffig.
Byddwn yn gwneud y gwaith mewn dau gam.
Cam 1 Dydd Iau 24 Awst 2017 rhwng 7.00 ac 11.00 pm
Bydd draeniau priffyrdd ychwanegol yn cael eu rhoi ar Ffordd Rhiwabon wrth ymyl y gylchfan. Bydd goleuadau traffig 4 ffordd mewn grym ar gyfer y gwaith a byddant yn cael eu symud unwaith y byddant wedi gorffen.
Cam 2 Dydd Mawrth 29 Awst 2017 tan ddydd Sadwrn 2 Medi.
Bydd Ffordd Buddug ar gau o Stryt Edward hyd nes y gylchfan ar Ffordd Rhiwabon. Bydd Ffordd y Tylwyth Teg hefyd ar gau rhwng ei chyffordd â Ffordd y Llys a chylchfan Ffordd y Tylwyth Teg. Bydd llwybrau teithio eraill ar waith a bydd y gwaith yn digwydd rhwng 7.00 ac 11.00 pm. Bydd goleuadau traffig 1 ffordd ar waith i reoli traffig sy’n teithio ar hyd Ffordd Rhiwabon
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Bydd mynediad i eiddo a mynediad i gerddwyr ar gael drwy gydol y gwaith a bydd ar gael bob amser yn ystod y gwaith er y gallai fod rhywfaint o oedi o bryd i’w gilydd.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:
“Mae’r gwaith hwn yn hanfodol er mwyn gwella wyneb y ffordd yn yr ardal hon. Maent yn rhan o gyfres o welliannau a gynlluniwyd yng nghanol y dref ac, er fy mod yn gwybod y bydd yn achosi amhariad i rai, rydym yn bwriadu achosi cyn lleied â phosibl o amhariad.”
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI