Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwaith i ddiogelu mannau gwyrdd Wrecsam yn cael ei gydnabod yn Ngarddwest y Palas
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Dau oedolyn hŷn yn eistedd gyferbyn â'i gilydd wrth fwrdd yn cael sgwrs
Sesiynau galw heibio i’w cynnal ledled y sir ynghylch gwasanaethau cymdeithasol oedolion
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Ruthin Road
Wrecsam yn erbyn Sheffield Wednesday: Parcio a Theithio
Pobl a lle
J
Canlyniadau TGAU 2025 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Busnes ac addysg Y cyngor
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Y cyngor
funding
Dyrchafu eich busnes yn Wrecsam – ymunwch â’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn ar 19 Medi
Busnes ac addysg
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > Gwaith i ddiogelu mannau gwyrdd Wrecsam yn cael ei gydnabod yn Ngarddwest y Palas
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Gwaith i ddiogelu mannau gwyrdd Wrecsam yn cael ei gydnabod yn Ngarddwest y Palas

Diweddarwyd diwethaf: 2025/05/29 at 4:20 PM
Rhannu
Darllen 2 funud
Gwaith i ddiogelu mannau gwyrdd Wrecsam yn cael ei gydnabod yn Ngarddwest y Palas
RHANNU

Mae Meysydd Chwarae Cymru wedi bod mewn partneriaeth â Chyngor Wrecsam ers dechrau’r 1960au ac ers hynny rydyn ni wedi diogelu 37 o fannau gwyrdd a 10 parc gwledig gyda 300 o fannau wedi’u diogelu ledled Cymru bellach.

Mae gan Wrecsam draddodiad hir o hyrwyddo a chydnabod pwysigrwydd ein mannau gwyrdd a byddwn yn parhau i weithio gyda Meysydd Chwarae Cymru.

Yn ddiweddar i gydnabod y bartneriaeth werthfawr hon, gwahoddwyd swyddogion CBSW Nicola Ellis a Craig Youens i arddwest ym Mhalas Buckingham i ddathlu canlyniadau llwyddiannus y bartneriaeth.

Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd, y Cynghorydd Terry Evans: “Mae cymaint o waith da yn mynd rhagddo heb gael ei gydnabod, felly mae’n wych gweld bod ein partneriaeth lwyddiannus wedi cael ei chydnabod a’i chanmol yn y digwyddiad hwn.”

Penodwyd Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru yn Noddwr Meysydd Chwarae Cymru yn 2024.

Dywedodd y Swyddog Mannau Agored, Nicola Ellis: “Cefais fy nghyflwyno i Ei Uchelder Brenhinol y Tywysog William a oedd â diddordeb yn ymwneud Wrecsam â Meysydd Chwarae Cymru. “Fe siaradon ni am fannau gwyrdd Wrecsam a sut rydyn ni’n eu diogelu er mwyn i genedlaethau’r dyfodol fwynhau’r fioamrywiaeth yn ogystal â’r manteision iechyd corfforol a lles meddyliol. “Soniais hefyd am y gwaith gwych y mae ein gwirfoddolwyr yn ei wneud yn ogystal â phwysigrwydd gwarchod ein caeau pêl-droed – ymatebodd y tywysog gyda gwên a dywedodd nad yw’n syndod bod tîm Wrecsam yn gwneud yn dda eleni!”

Sefydlwyd Meysydd Chwarae Cymru ym 1925 i ddiogelu caeau chwarae, meysydd chwarae a mannau gwyrdd pan fo cymaint o waith adeiladu’n digwydd yn ein trefi a’n dinasoedd.

Roedd yr ymddiriedolaeth am sicrhau bod gan bob cymuned fynediad at barciau, caeau chwarae, a mannau gwyrdd.

Gwaith i ddiogelu mannau gwyrdd Wrecsam yn cael ei gydnabod yn Ngarddwest y Palas
Rhannu
Erthygl flaenorol Wrexham County Borough Council Mwy na £7 miliwn yn cael ei roi i fusnesau a phrosiectau lleol
Erthygl nesaf Safonau Masnach yn cau Siop Gyfleustra yng Nghanol y Ddinas am werthu tybaco a fêps anghyfreithlon Safonau Masnach yn cau Siop Gyfleustra yng Nghanol y Ddinas am werthu tybaco a fêps anghyfreithlon

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Dau oedolyn hŷn yn eistedd gyferbyn â'i gilydd wrth fwrdd yn cael sgwrs
Sesiynau galw heibio i’w cynnal ledled y sir ynghylch gwasanaethau cymdeithasol oedolion
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Awst 22, 2025
Ruthin Road
Wrecsam yn erbyn Sheffield Wednesday: Parcio a Theithio
Pobl a lle Awst 21, 2025
J
Canlyniadau TGAU 2025 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Busnes ac addysg Y cyngor Awst 21, 2025
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Y cyngor Awst 20, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Dau oedolyn hŷn yn eistedd gyferbyn â'i gilydd wrth fwrdd yn cael sgwrs
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Sesiynau galw heibio i’w cynnal ledled y sir ynghylch gwasanaethau cymdeithasol oedolion

Awst 22, 2025
J
Busnes ac addysgY cyngor

Canlyniadau TGAU 2025 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 21, 2025
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Y cyngor

Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol

Awst 20, 2025
Home-Start Baby Bank project
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Prosiect banc offer babanod yn cefnogi dros 80 o deuluoedd lleol

Awst 19, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English