Mae Gwasanaeth Safonau Masnach Wrecsam yn rhybuddio’r cyhoedd i fod yn ofalus wrth wneud cais am wasanaethau ar-lein rhag iddyn nhw gael eu camarwain gan wefannau ffug sy’n edrych fel y gwefannau gwreiddiol ond sy’n codi costau ychwanegol di-angen.
Enghreifftiau o hyn yw wrth wneud cais am neu wrth adnewyddu trwyddedau gyrru, pasbortau, Cardiau Yswiriant Iechyd Ewropeaidd (EHIC), Trwyddedau Mynediad UDA, profion gyrru a budd-daliadau plant.
Er bod rhai gwefannau swyddogol yn codi ffi am wneud cais, mae nifer o wefannau trydydd parti yn bodoli bellach sy’n codi ffi ychwanegol i dderbyn y cais, ac yna ei basio ymlaen i’r awdurdod dosbarthu swyddogol.
Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.
“Efallai na fyddwch hyd yn oed wedi sylweddoli eich bod wedi cael eich camarwain”
Dywedodd y Cyng. Hugh Jones, Aelod Arweiniol Pobl, Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedau: “Yn aml mae’r gwefannau hyn yn edrych yn debyg iawn i’r gwefannau swyddogol, felly mae’n bosibl na fyddwch wedi sylwi eich bod yn cael eich camarwain. Fel arfer mae ganddyn nhw ymwadiad a dolen gyswllt i’r safle swyddogol, ond gall hwnnw fod mewn print mân sy’n anodd i’w weld. Yn aml mae aelodau o’r cyhoedd yn canfod eu bod wedi defnyddio un o’r gwefannau ffug hyn yn rhy hwyr ar ôl iddyn nhw dalu’r ffi ychwanegol. Cymerwch eich amser i wneud yn siŵr eich bod yn defnyddio’r wefan swyddogol i osgoi talu unrhyw gostau di-angen.”
Rhywfaint o gyngor
Y cyngor gan Safonau Masnach yw bod yn eithriadol o ofalus wrth wneud chwiliad cyffredinol mewn chwilotwr gan fod hynny’n llawer mwy tebygol o ddangos gwefannau trydydd parti ar y rhestr o ganlyniadau.
Gwiriwch beth yw’r cyfeiriad gwe swyddogol ar gyfer y gwasanaeth yr ydych yn chwilio amdano, a theipiwch hwnnw yn llawn, gan dreulio amser yn gwirio’r wefan yr ydych yn ei hagor i wneud yn siŵr mai honno yw’r wefan swyddogol a bod y ffi yn un yr oeddech yn ei disgwyl.
Mae cyngor ar gael i ddefnyddwyr gan Wasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth. Gellir cysylltu â nhw ar 0808 223 1144 (Cymraeg) neu 0808 223 1133 (Saesneg).
Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF