Hoffai’r gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu, ddiolch i chi am eich cefnogaeth tra eu bod parhau i weithio’n galed i ddarparu eich gwasanaeth wythnosol gyda chyn lleied o aflonyddwch â phosib.
Mae ein gwasanaethau wedi gorfod addasu oherwydd y sefyllfa COVID-19 ac rydym wedi gofyn i chi ein helpu gyda nifer o bethau’n ddiweddar. Mae eich ymateb gadarnhaol wedi helpu ein criwiau i barhau â’u gwaith pwysig yn ystod y cyfnod anodd hwn.
“Amynedd a dealltwriaeth”
Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Hoffwn ddiolch i’r cyhoedd am fod yn amyneddgar a’u dealltwriaeth tra’r ydym yn gweithio yn ystod y sefyllfa gyfredol.
“Mae ein criwiau yn gwneud eu gorau i ddarparu eich gwasanaeth wythnosol er y nifer o rwystrau sydd yn eu hwynebu, ac mae nifer o bobl wedi cydnabod hyn ar gyfryngau cymdeithasol yn ystod yr wythnosau diwethaf. Cafwyd llawer o negeseuon caredig yn cefnogi ein gweithwyr, a mae hyn yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr iawn.
“Rydym yn parhau gyda’n blaenoriaeth i gadw chi a’n criwiau yn ddiogel ac mae gennym ragofalon hylendid caeth mewn lle i gyflawni hyn, ac mi wnaethoch ei dderbyn a’n helpu. Daliwch ati i gefnogi…mae’n helpu i godi calon. Diolch.”
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
“Rhan bwysig iawn o’u cadw’n ddiogel”
Dywedodd Darren Williams, Prif Swyddog yr Amgylchedd a Thechnegol: “Rydym wedi gwerthfawrogi’r camau hyn i’n helpu yn fawr iawn. Rydych chi wedi cydnabod ein bod angen gofalu am ein criwiau, a mae gwneud pethau megis diheintio handlenni eich bin yn parhau i fod yn ddefnyddiol iawn.
“Yn ogystal rydych wedi deall na all y criwiau gyffwrdd unrhyw ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu am resymau diogelwch, felly mae cymryd eich amser i wasgu eich deunyddiau plastig a chardfwrdd fel y gall ein gweithwyr wagio’ch bagiau a bocsys yn syth i gaban y cerbyd – heb gyffwrdd unrhyw ddeunydd – yn rhan bwysig iawn o’u cadw’n ddiogel. Diolch.”
Cynnydd 5-10%
Yn ystod yr wythnosau diwethaf rydym wedi gweld cynnydd 5-10% o wastraff yr ydym wedi’i gasglu o eiddo yn Wrecsam.
Ar adeg lle mae ein gwasanaethau gwastraff yn cael eu defnyddio fwyfwy, rydym eisiau atgoffa pawb bod lleihau ein gwastraff yn un o’r ffyrdd mwyaf y gallwn i atal unrhyw amhariadau i’r gwasanaethau.
Ychwanegodd y Cynghorydd Bithell: “Gall edrych yn gais mawr gan ein bod yn treulio mwy o amser gartref na’r arfer, ond bydd popeth y gallwn ei wneud i leihau gwastraff yn gwneud gwahaniaeth i gynnal gwasanaeth casgliadau da i bawb.
“Er bod atyniad i glirio’r tŷ, ceisiwch osgoi gwneud hyn gan y bydd yn creu mwy o waith casglu sbwriel ac ailgylchu i’n gweithwyr. Bu i’n canolfannau ailgylchu ail-agor yr wythnos ddiwethaf, ond y cyngor yw i ymweld â hwy dim ond os oes wir angen arnoch. Os yw’n bosibl, cadwch eitemau mawr, megis dodrefni tan fydd y sefyllfa wedi gostegu, a phan fydd y gwasanaethau yn dychwelyd i’r arfer. Diolch yn fawr iawn am eich cymorth.”
I gael manylion ynghylch ail-agor ein canolfannau ailgylchu a’r mesurau sydd gennym mewn lle, ewch i weld yr erthygl hon ers yr wythnos ddiwethaf.
Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref – archebwch le ymlaen llaw ar gyfer y penwythnos a gŵyl y banc
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19