Mae Taith Tennis y Byd Ieuenctid y Ffederasiwn Tennis Rhyngwladol yn Wrecsam ar hyn o bryd yn cynnal cystadlaethau yn y Ganolfan Tennis .
Mae’r Daith yn rhoi cyfle i chwaraewyr deithio’r byd a datblygu eu talent gan weithredu fel safle lansio i gael mynediad i’r Gamp Lawn Iau a llwyddiant ehangach yn y gêm broffesiynol.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
I ddathlu’r daith hon ac i groesawu’r chwaraewyr a’u teuluoedd i Wrecsam rydym yn trefnu digwyddiadau a gweithgareddau ategol yng nghanol y dref.
Byddant yn digwydd yn ystod Gwyliau’r Pasg ac maen nhw i gyd yn rhad ac am ddim!
Mae rhagor o wybodaeth isod:
Ebrill 11, 13 20, 21 a 22 rhwng 10am a 12pm – cyfle i wneud Tatŵs Gliter yn Nhŷ Pawb.
Ebrill 11 – 22 rhwng 10 am i 4pm – Helfa Peli Tennis. Ewch i nôl taflen gliwiau o Dŷ Pawb ac i ffwrdd a chi.
Ebrill 12 – 14 rhwng 11am a 2pm – Tennis yn Sgwâr y Frenhines.
Ac yn olaf…. Crefftau Tennis yn Nhŷ Pawb ar Ebrill 13, 20, 21 a 22 Ebrill rhwng 1pm a 3pm.
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH