Mae gwyliau’r ysgol bron yma ac mae gan Tŷ Pawb wythnos llawn o hwyl i’r teulu – gan ddechrau’r penwythnos hwn!
Fe welwch chi fod gan lawer o’r gweithgareddau isod thema tecstilau/ffabrig penodol iddynt.
Mae hyn i gyd-fynd â’n dwy arddangosfa newydd sy’n agor y penwythnos hwn – Julie Cope’s Grand Tour: The Story of A Life Gan Grayson Perry a Twist i Fyny Twist i Lawr.
Cofiwch edrych yn yr oriel tra’ch bod chi yma!
Dydd Sadwrn
Clwb Celf Teuluol
- 10am-12pm
- £2 y plentyn. Mae oedolion yn mynd am ddim.
- Yn Oriel 2.
- Sesiwn dan arweiniad artistiaid i blant a’u teuluoedd i archwilio ein
orielau a datblygu sgiliau dychymyg a gwneud. - Mae hon yn sesiwn galw heibio i’r teulu, a rhaid i blant ddod gyda
oedolyn.
Dydd Sul
Awr Grefftau i Deuluoedd
- 11am-12pm.
- Yn yr Ardal Fwyd.
- Addurnwch doll papur gyda thîm gwirfoddol Tŷ Pawb.
- Mae hon yn sesiwn galw heibio i’r teulu, a rhaid i blant ddod gyda
oedolyn.
Dydd Llun
Picnic y Tedi Bêrs Dan Do
- 10am-12pm.
- £2 y plentyn. Am ddim i oedolion.Fe gewch chi fwynhau storïau, addurno plât a chwpan picnic papur a chreu ategolion ffelt ar gyfer eich tedi.
- A hefyd, dewch i’n helpu i ddod o hyd i dedis coll Tŷ Pawb!Dewch â’ch picnic eich hun neu brynu bwyd gan y stondinau bwyd gwych ar y safle.
- Mae archebu lle yn hanfodol cysylltwch â: heather.wilson@wrexham.gov.uk / 01978 292144
Dydd Mawrth
Dillad Papur
- 10am-12pm.
- Am ddim!
- Dewch i greu eich dillad papur eich hun i addurno’ch ystafell gan ddefnyddio ewyn eillio a swigod ymolchi!
- Gallwch greu crys pêl-droed, gwisg i barti neu ddyluniad gwreiddiol i’w roi ar hongiwr cardbord.
- Bydd gennym ni hefyd lein sychu i’r dillad papur – er mwyn gallu dangos eich gwaith i bawb sy’n dod i Tŷ Pawb!
Dydd Mercher
Gweithdy Baneri Defnydd Wrecsam: wedi’i ysbrydoli gan Grayson Perry a’r ffatri
Celanese
- 2pm-4pm
- £2 y plentyn. Am ddim i oedolion.
- Dyma gyfle i greu arw ydd defnydd i’w roi ar eich drws gartref a chyfrannu at faner o gywaith a fydd yn cael ei harddangos yn Tŷ Pawb.
- Mae archebu lle yn hanfodol cysylltwch â: heather.wilson@wrexham.gov.uk / 01978 292144
Paentio Wynebau gyda Sophia Leadill
- £1
- 2pm-4pm
Dydd Iau
Paentio Wynebau gyda Sophia Leadill
- £1
- 12pm-2pm
Disgo Celfyddyd Bop i’ch Hunan Arall
- 2pm-4pm
- Am ddim.
- Gwisgwch fel eich hunan arall ar gyfer disgo dylunio
ffasiwn blaengar wedi’i ysbrydoli gan Julie Cope’s Grand
Tour. - Disgwyliwch oleuadau, cerddoriaeth a llawer o ddeunyddiau celf cyffrous i greu eich cymeriadau ffasiynol sy’n symud eu coesau a’u breichiau.
Dydd Gwener
Paentio Wynebau gyda Sophia Leadill
- £1
- 10pm-12pm
Gweithgareddau Dydd Gŵyl Dewi i’r Teulu
Dewch i greu eich byntin eich hun, gwylio hen raglenni teledu Cymraeg i blant ac addurno bocs
popgorn. Am ddim.
Dydd Sadwrn Mawrth 2
Clwb Ffilmiau i Deuluoedd
- The Boy in the Dress (2014)
- 1pm-3pm
- Am ddim!
- Bydd crefftau ar thema i ddilyn gyda thîm gwirfoddolwyr Tŷ Pawb.
- Gwell archebu i osgoi cael eich siomi, nifer cyfyngedig o leoedd sydd.
Clwb Celf Teuluol
- 10am-12pm
- £2 y plentyn. Mae oedolion yn mynd am ddim.
- Sesiwn dan arweiniad artistiaid i blant a’u teuluoedd i archwilio ein
orielau a datblygu sgiliau dychymyg a gwneud. - Mae hon yn sesiwn galw heibio i’r teulu, a rhaid i blant ddod gyda
oedolyn. - Yn Oriel 2.
Dydd Sul Mawrth 3
Awr Grefftau i Deuluoedd
- 11am-12pm
- Addurnwch doll papur gyda thîm gwirfoddol Tŷ Pawb.
- Mae hon yn sesiwn galw heibio i’r teulu, a rhaid i blant ddod gyda
oedolyn. - Yn yr Ardal Fwyd.
Ar gael bob un dydd yn y orielau
10am-5pm – Mynediad am ddim.
Dyfeisiwch Peiriant Lluniadu
- Arbrofi gyda gwneud peiriannau tynnu llyniau hefo gwrthrychau pob-dydd!
- Pa fathau o batrymau, siapiau a llinellau a wnewch chi?
Pecyn archwilio’r oriel ar gyfer teuluoedd
- Yn cynnwys popeth sydd ei angen arnoch i helpu plant i archwylio ein arddangosfeydd!
- Mae’r pecyn yn cynnwys gwybodaeth, gweithgareddau crefft, a cwestiynau i blant eu holi a’u hateb.
Cysylltwch a Tŷ Pawb am fwy o wybodaeth:
01978 292144
typawb@wrexham.gov.uk