Wrth i’r Nadolig agosáu mae pawb yn edrych ymlaen at nosweithiau allan Nadoligaidd gyda’u ffrindiau a’u perthnasau, felly ’rydym yn atgoffa pawb bod angen gwneud yn siŵr bod unrhyw dacsi yr ydych yn ei ddefnyddio wedi ei drwyddedu’n iawn.
Mae yna rai perchnogion ceir sydd heb fod yn yrwyr tacsi cyfreithlon, wedi eu trwyddedu’n iawn, a fydd yn cymryd mantais o bobl ar ddiwedd noson gan gymryd eu harian.Os nad ydynt wedi eu trwyddedu, nid ydynt wedi eu hyswirio, sydd yn golygu y gallai gostio’n ddrud i chi yn ddiweddarach pe bai unrhyw beth yn digwydd.
Dyma awgrymiadau defnyddiol i’ch cadw yn ddiogel
- Dylai pob cerbyd hurio preifat neu gerbyd hacni arddangos platiau trwydded gwyn a phiws y tu allan i’r cerbydau.
- Bydd cerbyd hacni yn dangos plât ar y cefn ac arwydd wedi ei oleuo ar y to yn dangos y gair ‘TACSI’.
- Bydd gan gerbydau hurio preifat arwyddion melyn yn y ffenestri cefn hefyd.
- Dylai fod gan yr holl yrwyr fathodyn adnabod yn dangos eu henw, llun ohonynt, rhif trwydded a’r dyddiad y mae’r drwydded yn dod i ben arno. Os na ellwch weld y bathodyn, gofynnwch i’w weld cyn i chi gychwyn i unman.
Bydd nifer o yrwyr tacsi heb drwydded yn gyrru ar strydoedd prysur neu’n aros gerllaw mannau sy’n brysur gyda’r nosau am unigolion neu grwpiau sydd ddim callach, felly sicrhewch eich bod bob amser yn gwirio, fel nad ydych yn dod yn rhan o sgam.
Os ydych yn amau bod rhywun yn gweithredu fel tacsi heb drwydded, gellwch roi gwybod i’r Adran Drwyddedu amdano ar 01978 297441, e-bostiwch licensingservice@wrexham.gov.uk. Neu gellwch ffonio’r Heddlu ar 101. Gellwch aros yn ddienw pe dymunech.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.