Wyddoch chi y gallwch chi wirio pryd mae eich casgliadau bin diweddaraf yn syml trwy deipio eich cod post neu stryd?
Mae’r cyfleuster Gwirio’ch diwrnod casglu biniau yn ffordd wych o gael gwybod yn union pryd mae’ch biniau yn cael eu casglu, a gall fod yn arbennig o ddefnyddiol ar adegau pan fyddwch yn gweld newidiadau i’ch patrwm casglu arferol, megis dros gyfnod y Nadolig.
Ni fydd angen i chi fewngofnodi i wirio’ch diwrnod casglu biniau, a gallwch wirio ar ran eich ffrindiau, aelodau o’ch teulu a chymdogion hefyd.
Ffordd arall o gael y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â chasgliadau biniau yw cofrestru i dderbyn negeseuon atgoffa trwy e-bost. Trwy wneud hyn, fe gewch chi neges e-bost i’ch atgoffa i roi’ch biniau allan y diwrnod cyn y diwrnod casglu. Mae’n ffordd dda i ni adael i chi wybod ynglŷn ag unrhyw newidiadau sy’n effeithio arnoch chi hefyd.
Meddai’r Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Mae Gwirio’ch diwrnod casglu biniau yn hawdd iawn ac yn cymryd dim ond ychydig funudau a gallwch ddefnyddio eich ffôn glyfar, teclyn llechen neu ddyfeisiau eraill i wirio. Trwy wneud hynny byddwch yn gwneud yn siŵr nad ydych yn methu’ch diwrnod casglu. Gallwch hefyd wirio pryd mae’ch diwrnodau casglu trwy gofrestru i dderbyn ein negeseuon atgoffa trwy e-bost er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf.”
Bydd Wych. Ailgylcha. – Dewch inni gael Cymru i rif 1! – Newyddion Cyngor Wrecsam