Am y tro cyntaf yn ein hanes, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi prynu hen dŷ cyngor yn ôl – ac mae gennym 26 o dai eraill i’w hystyried.
Mae Deddf Tai Cymru (2014) wedi rhoi’r cyfle i ni wella ein stoc dai drwy ein gwaith Safon Ansawdd Tai Cymru parhaus, adeiladu tai cymdeithasol newydd sydd eisoes wedi dechrau, a phrynu eiddo yn ôl.
Yn ychwanegol at hynny, ers mis Ionawr 2015, mae tai cyngor a werthwyd o dan Hawl i Brynu yn cael eu diogelu gan Reoliadau Cynnig Cyntaf i Brynu, gan olygu bod perchnogion yn gorfod rhoi’r cynnig cyntaf i brynu eu tŷ, un ai i ni yng Nghyngor Wrecsam neu Landlord Cymdeithasol Cofrestredig arall, cyn iddynt fynd ar y farchnad agored.
GALL Y DDAU GAM SYML YMA TROI CHI MEWN I ARCHARWR AILGYLCHU!
Gall fod yn gymhleth ar brydiau, ac fel popeth, mae rheolau, ond mae’r hanfodion yn golygu ein bod yn gallu cynnal trefniant prynu’n ôl ar gyn eiddo’r cyngor, pan fodlonir yr amodau.
Trefniant prynu’n ôl
Felly, am y tro cyntaf yn ein hanes, mae’r Adran Dai wedi dechrau prynu hen dai cyngor, fel ein bod yn gallu cynyddu ein stoc a sicrhau bod mwy o dai cymdeithasol ar gael.
Dywedodd y Cynghorydd David Griffiths, Aelod Arweiniol Tai: “Byddwn o hyd yn gweithio’n galed i ymestyn a gwella ein stoc dai cyngor, fel ein bod yn gallu darparu cyflenwad parod o dai fforddiadwy yn ardal Wrecsam.
“Mae prynu tai yn ôl yn un ffordd o allu cyflawni hynny, ond byddwn yn cynghori unrhyw un sy’n berchen ar hen dŷ cyngor, a’i brynwyd yn y 10 mlynedd diwethaf i gysylltu â ni.”
Rydym yn y broses o brynu hen dai cyngor yn ôl ym Mhentre Maelor, Glanrafon a Phlas Madog.
Fodd bynnag, mae ein Hadran Dai o hyd yn chwilio am gyn eiddo Hawl i Brynu, y gallwn eu prynu yn ôl, o bosib.
“Cysylltwch”
Os ydych chi’n berchen ar hen dŷ cyngor a hoffech ei gynnig i werthu, cysylltwch â’n Tîm Cymorth Busnes ar 01978 298993, neu anfonwch neges e-bost at hesupport@wrexham.gov.uk
Llun – Y Cyng. David Griffiths, Aelod Arweiniol am Dai, at un o’r tai ym Mhentre Maelor gyda’r Cynghorydd Michael Morris, Aelod Lleol am Holt.
Sut i fod yn archarwr ailgylchu…mewn dau gam syml.
DERBYNIWCH AWGRYMIADAU AILGYLCHU