Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen GWYLIWCH: Manteisiwch ar gyngor busnes am ddim ar garreg eich drws!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > GWYLIWCH: Manteisiwch ar gyngor busnes am ddim ar garreg eich drws!
Busnes ac addysgFideoY cyngor

GWYLIWCH: Manteisiwch ar gyngor busnes am ddim ar garreg eich drws!

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 3, 2019 11:16 am
Rhannu
Darllen 4 funud
GWYLIWCH: Manteisiwch ar gyngor busnes am ddim ar garreg eich drws!
RHANNU

Mae’r Llinellfusnes yn wasanaeth gwybodaeth proffesiynol sy’n cael ei ddarparu am ddim yn bennaf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar gyfer unrhyw un sy’n dechrau busnes, rhedeg busnes neu’n astudio busnes.

Fel gwasanaeth gwybodaeth arbenigol, mae’r Llinellfusnes yn prynu amrywiaeth o adnoddau fel nad oes yn rhaid i chi wneud hynny. Ynghyd â hynny, mae’r tîm yn gallu darparu gwybodaeth helaeth am faterion busnes, adnoddau gwybodaeth busnes a sgiliau ymchwil ac yn gallu canfod yr wybodaeth sydd arnoch chi ei hangen ar eich rhan, gan arbed amser ac arian i chi.

Felly, peidiwch â gwastraffu amser ar y rhyngrwyd, gadewch i dîm y Llinellfusnes wneud hynny ar eich rhan.

GWYLIWCH: Gareth Hatton, sydd â thros 10 mlynedd o brofiad yn gweithio i’r Llinellfusnes, yn egluro sut gall y Llinellfusnes eich helpu chi:

Pwy y mae’r Llinellfusnes yn gallu helpu?

  • Busnesau newydd
  • Busnesau sefydledig
  • Myfyrwyr
  • Pobl sy’n chwilio am waith
  • Sefydliadau Cymorth i Fusnesau

 “Dros 6000 o ymholiadau”

Meddai’r Cyng. Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Economi – Datblygu Economaidd ac Adfywio: “Dyma wasanaeth ardderchog a ddarperir yn rhad ac am ddim gan amlaf. Os ydych chi’n bwriadu cychwyn eich busnes eich hun neu angen cyngor am faterion busnes, awgrymaf yn gryf eich bod chi’n cysylltu â thîm y Llinellfusnes. Maen nhw’n delio gyda thros 6000 o ymholiadau pob blwyddyn, a darperir pecyn cymorth cyflawn ac wedi ei deilwra i gleientiaid gyda’r nod o gryfhau a helpu busnesau dyfu yn y gymuned leol.”

YMGEISIO AM LE MEITHRIN AR GYFER MEDI 2019

Mae’r adnoddau a’r cyngor sydd ar gael drwy’r Llinellfusnes yn gallu helpu unigolion i wneud y canlynol:

  • Dechrau busnes / canfod cefnogaeth berthnasol i ddechrau busnes
  • Ymchwilio i’r farchnad o ran y perfformiad presennol ac i’r dyfodol
  • Derbyn rhestrau marchnata busnes i fusnes wedi eu teilwra
  • Ymchwilio i statws credyd busnesau yn y Deyrnas Unedig
  • Canfod cyfleoedd marchnata / rhwydweithio lleol

O ganlyniad i gefnogaeth y Llinellfusnes, mae cleientiaid wedi llwyddo i gael mwy o werthiannau (o werthiannau gwerth isel i werthiannau dros £1000), ennill contractau mawr (fel cyflenwi bagiau i Gemau Olympaidd 2012) a pharatoi cynlluniau busnes i wneud cais am gyllid. Mae’r Llinellfusnes hyd yn oed wedi helpu cleientiaid baratoi cyflwyniadau i fuddsoddwyr posibl (fel rhaglen deledu Dragons’ Den ar y BBC) yn ogystal â chynorthwyo cleientiaid i sefydlu a datblygu busnes newydd yn llwyddiannus.

Ers ymuno â’r Llinellfusnes, mae Gareth wedi datblygu’r gwasanaeth a lansio nifer o fentrau newydd i gefnogi busnesau. Mae Gareth hefyd wedi cydlynu digwyddiadau, gan ddod â rhai o siaradwyr busnes blaenllaw’r Deyrnas Unedig i Wrecsam.

Yn 2014 enillodd Gareth wobr genedlaethol Pencampwr Llyfrgell y Flwyddyn, gwobr fawreddog a oedd yn cydnabod ac yn amlygu ei lwyddiannau gyda’r Llinellfusnes ac effaith werthfawr cynnig gwybodaeth busnes o leoliad llyfrgell ar ffyniant economaidd.

I gael rhagor o wybodaeth am y Llinellfusnes, neu i gyflwyno ymholiad, cysylltwch â’r tîm:

    • Cyflwynwch ymholiadau YMA 
    • E-bost: businessline@wrexham.gov.uk
    • Rhif Ffôn: 01978 292092

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.wrexham.gov.uk/welsh/education_w/admissions_nursery.htm”] YMGEISIWCH NAWR [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Cadw’n heini gyda’ch plant yn Llyfrgell Wrecsam! Cadw’n heini gyda’ch plant yn Llyfrgell Wrecsam!
Erthygl nesaf Office Admin Job Vacancy Commitee Officer Eisiau cynnig cefnogaeth weinyddol i ran bwysig o’r Cyngor? Edrychwch ar y swydd hon…

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 21, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor

Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan

Awst 18, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 13, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English