Mae digwyddiad plannu coed wedi’i drefnu ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun ddydd Mercher, 19 Chwefror rhwng 10am a 12pm.
Mae’r digwyddiad yn rhan o’r cynlluniau i blannu dros 1000 o goed yn yr wythnosau nesaf diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru a Choed Cadw.
Mae’n rhan o’r cynlluniau i greu cysylltiadau cynefin allweddol ar gyfer bywyd gwyllt yn y blynyddoedd sydd i ddod.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cynorthwyo dewch i’n cyfarfod ger Giât fynediad Parc Gwledig Dyfroedd Alun (ochr Gwersyllt)
Bydd angen i chi sicrhau eich bod yn gwisgo dillad cynnes ac esgidiau cryf neu esgidiau glaw.
Mae’n rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn.
I gael rhagor o fanylion cysylltwch 07867138169.
Derbyniwch y wybodaeth ddiweddaraf o ran graeanu yn syth i’ch mewnflwch
SIGN ME UP NOW
COFRESTRWCH FI RŴAN