Rhag ofn eich bod wedi methu hwn yn gynharach…
Mae’r data diweddaraf a gyhoeddwyd gan Global Tourism Solutions wedi dod â mwy o newyddion da i’r sector twristiaeth ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam gyda thwf o bron i 2% yn y flwyddyn ddiwethaf 🙂
Mae data a gyflwynwyd gan fusnesau twristiaeth lleol ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam wedi dangos twf calonogol o 1.7% mewn gwariant gan ymwelwyr y llynedd, gyda chyfanswm o £117.7 miliwn yn dod i’r Sir yn 2017. Yn fwy na hynny, mae hyn hefyd yn dangos twf o bron i 40% ers 2010 sy’n gwneud y Sir yn un o’r perfformwyr cryfaf yng Nghymru.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam sy’n arwain ar dwristiaeth leol, gan weithio ochr yn ochr â Phartneriaeth Dyma Wrecsam – bwrdd cydweithredol rhwng gwestai, atyniadau a darparwyr gweithgareddau lleol, sydd oll â’r nod o gynnig mwy o brofiadau i ymwelwyr a hyrwyddo’r Sir yn ehangach.
Digwyddiadau poblogaidd twristaidd
2017 oedd Blwyddyn y Chwedlau yng Nghymru, a chynhaliwyd digwyddiadau poblogaidd gyda thwristiaid mewn golwg, fel Focus Wales, ComicCon, y Sinemâu Awyr Agored, Rock the Park, O Dan y Bwâu, gig Olly Murs ar y Cae Ras a’r rhaglen boblogaidd o ddigwyddiadau’r Nadolig yn y dref. Ar ben hynny, credir bod buddsoddiad Partneriaeth Dyma Wrecsam yn y sector, yn ogystal â’r cerdyn twristiaeth a’r rhaglen farchnata a lansiwyd yn sgil hynny, wedi rhoi hwb i’r ffigurau.
Mae ardal Wrecsam wedi ennill enw da iawn am fwyd a diod o ansawdd, wrth i fwytai annibynnol fel yr Hand yn Llanarmon a’r Machine House ymddangos yn arweinlyfr Michelin UK, a diolch i fragdai fel Wrexham Lager a’r Big Hand mae pobl o bell ac agos yn dod i glywed am yr ardal.
Mae llawer o awdurdodau lleol eraill yn defnyddio data Global Tourism Solutions, ac yn rhanbarth gogledd Cymru ar y cyfan bu twf o 4.7%, sy’n dangos fod y gogledd yn dod yn un o’r cyrchfannau mwyaf poblogaidd i fynd ar wyliau agos i adref yn y Deyrnas Gyfunol.
WEDI GWELD TIPIO ANGHYFREITHLON? GADEWCH I NI WYBOD YN SYTH AC YN HAWDD YMA
Niferoedd ymwelwyr
Nid gwariant yn unig sydd ar dwf yn sir Wrecsam; mae nifer yr ymwelwyr am y dydd wedi cynyddu 3%, gydag 1.48 miliwn o bobl yn ymweld ag atyniadau a digwyddiadau lleol, ac 1.89 miliwn wedi ymweld i gyd. Serch hynny, cwympodd nifer y bobl a arhosodd dros nos 0.3%, ond efallai nad yw hynny’n syndod gan ystyried fod y gwaith o adeiladu Carchar y Berwyn ar ei anterth yn 2016, a’r gweithwyr yn llenwi’r gwestai bob diwrnod o’r wythnos.
Wrth sôn am y canlyniadau blynyddol cadarnhaol, dywedodd aelod arweiniol yr economi ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Terry Evans:
“Dyma fwy o newyddion da i’r sector twristiaeth ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam. Rwyf wedi gweld â’m llygaid fy hun sut mae’r dref a’r Sir wedi elwa ar y twf yn nifer yr ymwelwyr yn y blynyddoedd diwethaf, ac rwy’n gobeithio bod yr ystadegau da yma’n annog mwy o fuddsoddiad a thwf yn y sector.
“Mae’n arbennig o galonogol gweld twf yn ein rhaglen o ddigwyddiadau ar ôl inni weithio mor galed i’w hybu. Mae’r ddau beth yn gyffredinol wedi dod â mwy o incwm i’n busnesau lleol yma yn y Sir, ac rwy’n sicr y bydd twf eto pan welwn ni ffigurau 2018.”
Wrecsam yn parhau i godi ei gêm
Ategwyd y sylwadau hynny gan Gadeirydd Newydd Partneriaeth Dyma Wrecsam, Sam Regan, un o berchnogion bwyty’r Lemon Tree yn y dref. Meddai Sam:
“Bob blwyddyn mae sir Wrecsam yn rhagori ar ei hun, ac mae gweld y busnesau twristiaeth yn dod ynghyd mor dda yn eithriadol o galonogol.
“Hwyrach ei bod yn hawdd ein cyhuddo o fod yn rhy gadarnhaol am dwristiaeth yn ein Sir, ond flwyddyn ar ôl blwyddyn mae’r data a gasglwyd gan weithwyr lleol ac arolygon cenedlaethol yn cyfiawnhau hyn. Mae mwy a mwy o ymwelwyr yn dal i ddewis sir Wrecsam, naill ai fel lle i grwydro gogledd Cymru – neu ar gyfer diwrnodau allan yn ein hatyniadau neu ddigwyddiadau lleol.
“Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae’r Bartneriaeth Twristiaeth a thîm twristiaeth Cyngor Wrecsam wedi cydweithio ar nifer o fentrau a digwyddiadau – y cyfan gyda’r nod o gadw’r sir yn gystadleuol ac yn atyniadol i ymwelwyr.
“Yn yr haf eleni aethom ati hefyd i ail-lansio ein cerdyn Twristiaeth, yn bennaf er mwyn cynnal y gefnogaeth gyda marchnata a gynigir i westai, bwytai ac atyniadau, a hefyd i gynhyrchu incwm y gellir ei wario ar geisiadau newydd am gyllid, marchnata, cefnogi busnesau a chynnal digwyddiadau i ddenu ymwelwyr.”
Yn calonogi buddsoddiadau newydd
Wedi gweld y ffigurau diweddaraf, dywedodd Rheolwr Cyrchfannau Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Joe Bickerton:
“Unwaith eto mae’n galonogol dros ben i weld mwy o dwf yng ngwariant ymwelwyr yma yn sir Wrecsam. Bob blwyddyn rydym yn ceisio annog a chefnogi buddsoddiad newydd yn y sector, a digwyddiadau sydd â’r potensial i ddenu ymwelwyr newydd i’r ardal.
“Pan fydd pobl yn dod yma maent yn aml yn sôn am Wrecsam fel lle deniadol, croesawgar a hawdd ei gyrraedd, ac felly ein nod ni fel Awdurdod Lleol yw defnyddio pa bynnag gyllid y gallwn gael gafael arno i ddal ati i wella’r argraff yr ydym yn ei greu ar ymwelwyr newydd, a’r croeso maent yn ei gael, yn unol â’n Cynllun Gweithredu Cyrchfannau newydd.
“Mae’r sector twristiaeth yn dal i greu mwy o swyddi hefyd, ac yn sir Wrecsam mae 1,640 o bobl yn gweithio’n llawn amser yn y diwydiant lletygarwch. Un o’r pethau sydd wedi llwyddo yn ddiweddar yw bod graddedigion o’r cwrs gradd Twristiaeth a Digwyddiadau ym Mhrifysgol Glyndŵr wedi dod o hyd i swyddi da yn lleol.”
Cyflogaeth yn parhau i dyfu
Un o’r graddedigion hynny yw Francesca Mairs, a gwblhaodd ei chwrs yn 2017 ac sydd bellach yn gweithio fel cydlynydd priodasau a digwyddiadau yng Ngwesty Llyndir Hall yn Yr Orsedd. Meddai Francesca:
“Wrth astudio twristiaeth ym Mhrifysgol Glyndŵr fe wnes i feithrin gwell dealltwriaeth o’r gyrfaoedd sydd ar gael yn y sir, ac fe gawson ni lu o gyfleoedd i rwydweithio â busnesau lleol ac ymchwilio i botensial yr ardal gyda staff twristiaeth Cyngor Wrecsam.
“Un o’r cysylltiadau a wnes i drwy hynny a roddodd yr hyder imi ddewis gyrfa yn y diwydiant lletygarwch yn lleol, a bob wythnos rwy’n cwrdd ag ymwelwyr sydd wrth eu boddau â beth rydym yn ei gynnig yma.”
Mae’r argraffiadau cychwynnol o 2018 yn awgrymu y bydd twristiaeth yn sir Wrecsam a gogledd Cymru yn dal i dyfu yn sgil tywydd arbennig o ffafriol dros yr haf, ac adroddiadau cadarnhaol gan westai ac atyniadau yn y sir.
Wedi gweld tipio anghyfreithlon? Gadewch i ni wybod ar-lein
DDWEDWCH WRTHYM AM DIPIO ANGHYFREITHLON AR-LEIN