Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Helpwch eich hoff leoliad lletygarwch dan do i aros yn agored ac yn ddiogel
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Helpwch eich hoff leoliad lletygarwch dan do i aros yn agored ac yn ddiogel
ArallY cyngor

Helpwch eich hoff leoliad lletygarwch dan do i aros yn agored ac yn ddiogel

Diweddarwyd diwethaf: Mai 27, 2021 9:47 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Wrexham Lager in Japan
RHANNU

Wrth i ni weld lleoliadau lletygarwch yn ailagor yn raddol ac yn ddiogel rydym yn falch i adrodd bod y mwyafrif helaeth o’r cyhoedd a busnesau yn ymddwyn yn gyfrifol ac yn ddiogel.

Tra ein bod i gyd yn gobeithio y bydd hyn yn parhau, mae’n well atgoffa cwsmeriaid a busnesau er mwyn parhau i aros yn agored i gwsmeriaid mae’n rhaid i bawb chwarae eu rhan i barhau i aros yn ddiogel. Mae hyn yn cynnwys cadw 2 fedr wrth giwio y tu allan i eiddo.

Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.

Mae gan fusnesau gyfrifoldeb i sicrhau bod unrhyw un sy’n ciwio i fynd i mewn i’w heiddo yn aros 2 fedr ar wahân, pa mor bynnag hir yw’r ciw.

Mae cwsmeriaid yn cael eu hatgoffa am hyn hefyd ac os bydd staff yn gofyn i chi gadw pellter cymdeithasol eich bod yn gwneud hynny yn gwrtais. Mae’n bwysig cofio bod staff diogelwch a goruchwylio drysau yn gweithio i’ch cadw chi a’r sawl gyda chi yn ddiogel ac ni fyddant yn goddef camdriniaeth.

Mae’n well eich bod yn archebu cyn mynd ac yn cynllunio ymhell ymlaen llaw ond mae rhai lleoliadau yn agored i “gerdded i mewn” a gall ciwiau ffurfio y tu allan os oes ganddynt yr uchafswm o gwsmeriaid tu mewn.

Gall hyn olygu arhosiad hir felly os byddwch yn gweld ciw hir, meddyliwch am le arall fyddech yn gallu mynd yn hytrach nag aros eich tro.

Hefyd, cofiwch fynd â’ch masg neu orchudd wyneb a rhoi sylw manwl i hylendid dwylo.

Ymweld â lleoliadau lletygarwch dan do yn ddiogel

Os nad ydych wedi mentro allan eto ond yn bwriadu gwneud hynny’n fuan, dyma rywfaint o gyngor cyffredinol ynglŷn ag aros yn ddiogel mewn lleoliadau lletygarwch dan do:

  • cynlluniwch ymlaen llaw a gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu cyn gadael os bydd angen
  • Rhaid i pob eiddo gymryd manylion cyswllt rhag ofn y bydd timoedd Profi, Olrhain a Diogelu angen cysylltu â chi. Sicrhewch fod gennych eich manylion yn barod
  • Dim ond 6 o bobl all eistedd gyda’i gilydd a dylech wneud eich gorau i gadw pellter cymdeithasol wrth eistedd wrth y bwrdd
  • Ni allwch sefyll mewn ardal eistedd i yfed eich diod
  • ewch â masg neu orchudd wyneb i’w ddefnyddio pan na fyddwch wrth eich bwrdd
  • parchwch yr holl staff. Maent wedi eich colli chi ac eisiau i chi fwynhau eich hunain ond ni fydd ymddygiad camdriniol tuag at staff yn cael ei oddef
  • Mae’n rhaid i berchnogion/landlordiaid lynu at y rheolau hefyd, felly os ydych yn bryderus am unrhyw eiddo, cysylltwch â contact-us@wrexham.gov.uk

A chofiwch os byddwch chi’n defnyddio cludiant cyhoeddus neu os bydd angen tacsi arnoch er mwyn teithio yn unrhyw le yn Wrecsam neu Gymru, bydd angen i chi wisgo masg wyneb. Sicrhewch fod gennych un neu ddau wrth law rhag ofn i chi newid eich cynlluniau ar y funud olaf. Mae gan yrwyr, gan gynnwys gyrwyr tacsi, hawl i beidio â’ch cludo os na fyddwch chi’n gwisgo masg.

???? Mae’r cyfyngiadau yng Nghymru’n llacio’n raddol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth gewch chi ei wneud a beth na chewch chi ei wneud.????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://llyw.cymru/cyfyngiadau-cyfredol “] Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Outgoing Mayor, Cllr Rob Walsh Y Cynghorydd Rob Walsh yn edrych yn ôl ar ei gyfnod fel Maer Wrecsam
Erthygl nesaf A483 Diweddarwyd: Traffig Cymru yn cadarnhau y bydd gwelliannau yn dechrau ar gyffordd yr A483 ar 1 Mehefin

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Recycling
Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu
Y cyngor
Medi 25, 2026
Ysgol I D Hooson
Gwaith yn Ysgol I D Hooson yn dechrau’n swyddogol
Busnes ac addysg
Medi 25, 2026
The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Illegal Tobacco
Y cyngor

Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw

Medi 24, 2026
sign for site
Y cyngor

Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol

Medi 22, 2026
Street lighting
Arall

Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd

Medi 21, 2026
Horse Riders
ArallPobl a lle

Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion

Medi 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English