Mae ein ceidwaid wedi bod yn adrodd am achosion o dipio anghyfreithlon o amgylch Parc Stryt Las yn Johnstown.
Mae staff y parc wedi bod yn casglu sbwriel o leiaf unwaith y flwyddyn trwy gydol y flwyddyn, ac yn ystod yr haf fe gawsant sesiynau anhygoel, gan lenwi 77 bag!
Darganfyddwch y gwybodaeth diweddaraf am Brechlyn Coronafeirws
Mae tipio anghyfreithlon yn digwydd ar draws Wrecsam yn anffodus.
Mae parciau yn fannau i bawb eu mwynhau, ond yn anffodus mae’r lleiafrif hunanol yn dewis defnyddio ein parciau a’n mannau agored fel mannau personol i adael eu sbwriel.
Mae’r gweithredodd hunanol yma’n golygu bod yn rhaid i ni fel Cyngor ddefnyddio ein hadnoddau yn glanhau’r amgylchedd, yn hytrach na chanolbwyntio ar wella’r amgylchedd mewn modd a fydd o fudd i bob un ohonom.
Mae tipio anghyfreithlon yn anghyfreithiol.
Gall fod yn beryglus, gall lygru tir a dyfrffyrdd. Gall fod yn berygl tân hefyd.
Meddai’r Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:
“Mae tipio anghyfreithlon yn hunanol ac yn beryglus, a gall ddifetha’r amgylchedd i bobl eraill ac i fywyd gwyllt a natur.
“Hyd yn oed dros y Nadolig – pan rydym ni’n dueddol o fod â mwy o wastraff – does dim esgus dros dipio anghyfreithlon, ac ni ddylai unrhyw un sy’n gwneud hynny synnu os byddant yn cael gwahoddiad i’r llys a chael dirwy sylweddol.”
Os byddwch chi’n darganfod achos o dipio anghyfreithlon
Peidiwch â chyffwrdd y gwastraff, fe allai gynnwys sylweddau peryglus.
Peidiwch ag amharu ar y safle, fe allai gynnwys tystiolaeth allai helpu i adnabod y troseddwr ac arwain at erlyniad.
Os byddwch chi’n gweld rhywun yn tipio’n anghyfreithlon
Nodwch y dyddiad, yr amser a’r lleoliad.
Gwnewch nodyn o beth yw’r gwastraff a faint o wastraff sydd yna.
Nodwch ddisgrifiad o unrhyw gerbydau y byddwch chi’n eu gweld, ynghyd â’r rhifau cofrestru.
Peidiwch â mynd at unrhyw un sy’n tipio’n anghyfreithlon. Maen nhw’n gwneud rhywbeth anghyfreithiol, a dydyn nhw ddim eisiau cael eu dal felly mae’n bosibl y gallent droi’n dreisgar.
CANFOD Y FFEITHIAU