Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Herio Mythau a chodi hyder i weithio drwy’r Gymraeg yng Ngogledd Cymru
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Herio Mythau a chodi hyder i weithio drwy’r Gymraeg yng Ngogledd Cymru
Pobl a lle

Herio Mythau a chodi hyder i weithio drwy’r Gymraeg yng Ngogledd Cymru

Diweddarwyd diwethaf: Mai 18, 2026 3:23 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Herio Mythau a chodi hyder i weithio drwy’r Gymraeg yng Ngogledd Cymru
RHANNU

Erthygl Gwadd

Dros y chwe mis diwethaf mae prosiect uchelgeisiol, Herio Mythau, wedi dod â sefydliadau a chymunedau ar draws Gogledd Cymru ynghyd i herio camsyniadau am ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith.

Wedi’i gomisiynu gan Is-Grŵp Iaith Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus rhanbarth y Gogledd, bu’r prosiect yn casglu’r mythau a rhagdybiaethau sy’n bodoli ynghylch gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg, boed hynny mewn sefydliadau cyhoeddus neu yn y gymuned ehangach. Yn dilyn casglu profiadau pobl o ddefnyddio Cymraeg yn y gweithle crëwyd adnoddau creadigol a hygyrch sydd yn dangos gwir brofiadau pobl sy’n defnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith o ddydd i ddydd.

Yn aml, mae pobl yn teimlo nad yw eu Cymraeg yn “ddigon da” i weithio mewn amgylchedd Cymraeg, i ymgeisio am swydd sydd yn gofyn am y Gymraeg, neu nad oes gwir werth mewn defnyddio’r iaith yn broffesiynol. Drwy gyfres o weithdai, cyfweliadau a grwpiau ffocws, mae Herio Mythau yn rhoi llwyfan i leisiau lleol rannu eu profiadau a herio’r canfyddiadau hynny.

Mae’r prosiect wedi casglu straeon a safbwyntiau gan weithwyr er mwyn creu cynnwys digidol a gweledol sydd yn dangos bod gweithio drwy’r Gymraeg yn bosibl ar bob lefel o ruglder. Bydd y gwaith hefyd yn tynnu sylw at y gefnogaeth sydd ar gael i staff sy’n dysgu neu ddatblygu eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

Dywedodd Lowri Angharad Hughes, Cadeirydd yr Is-Grŵp Iaith:

“Mae llawer o bobl yn dal yn ansicr am ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith. Nod Herio Mythau yw dangos bod croeso i sgiliau Cymraeg ar bob lefel ac mai proses yw defnyddio a magu hyder yn yr iaith. Rydyn ni eisiau dathlu profiadau go iawn pobl ledled y rhanbarth.”

Mae’r prosiect yn rhan o ymdrech ehangach i gryfhau defnydd dyddiol o’r Gymraeg yng Ngogledd Cymru, gan adeiladu hyder ymysg siaradwyr a chreu diwylliant cefnogol o fewn gweithleoedd a chymunedau lleol.

Bydd rhagor o wybodaeth, cynnwys digidol a chyfleoedd i gymryd rhan yn cael eu rhannu dros y misoedd nesaf trwy sianeli cyfryngau cymdeithasol y prosiect.

Cynhelir lansiad yr adnoddau ar stondin Grŵp Llandrillo-Menai yn Eisteddfod yr Urdd Môn 2026 ddydd Llun, Mai 25ain am 11y.b, gyda phanel sy’n barod i rannu eu profiadau o weithio drwy’r Gymraeg o fewn y sefydliadau cyhoeddus.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â: BGC-PSB@gwynedd.llyw.cymru

Cyngor Gwynedd; Cyngor Sir Ynys Môn; Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam; Cyngor Sir Ddinbych; Prifysgol Bangor; Grŵp Llandrillo-Menai; Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru; Heddlu Gogledd Cymru; Cyfoeth Naturiol Cymru; Parc Cenedlaethol Eryri, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; Rhaglen ARFOR

Erthygl Gwadd – Is-Grŵp Iaith Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus rhanbarth y Gogledd

Rhannu
Erthygl flaenorol housing development plan Ymgynghoriad cyhoeddus ar ailddatblygu Ffordd Rhosddu i ddechrau heddiw
Erthygl nesaf Sir Wrecsam yn cael ei Harddangos mewn Digwyddiadau Masnach Twristiaeth Allweddol yn y DU ac yn Rhyngwladol Sir Wrecsam yn cael ei Harddangos mewn Digwyddiadau Masnach Twristiaeth Allweddol yn y DU ac yn Rhyngwladol

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Wrecsam 2029
Pobl a lle

Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU

Hydref 22, 2026
Mayor attending the Taste of Nigeria Festival
Pobl a lleArall

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref

Hydref 21, 2026
Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Pobl a lle

Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU

Hydref 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English