Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Diwrnod Cofio’r Holocost, Arddangosfa #75MemorialFlames
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Diwrnod Cofio’r Holocost, Arddangosfa #75MemorialFlames
ArallPobl a lle

Diwrnod Cofio’r Holocost, Arddangosfa #75MemorialFlames

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 15, 2020 9:17 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Holocaust Memorial Day
RHANNU

Mae murlun, sydd wedi’i greu gan grwpiau cymunedol ar draws Wrecsam fel rhan o arddangosfa “75 Memorial Flames” Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio’r Holocost, wedi’i ddadorchuddio am y tro cyntaf.

Gweithiodd y grwpiau gyda Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam (AVOW) i greu murlun 8 troedfedd wrth 20. Cafodd y grwpiau gyfle i fynd i weithdai celf a chreu’r campwaith yn defnyddio ôl eu dwylo, esgidiau a’u cadeiriau olwyn er mwyn cyfleu amrywiaeth ein cymuned.

DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.

Roedd y grwpiau yn cynnwys Clwb Celf Pobl Ddigartref Wrecsam gyda Theatr Genedlaethol Cymru, Clwb Drama PlassyLanders yn Y Tir Plas Madoc, Gwasanaeth Ieuenctid Wrecsam ym Mhartneriaeth Parc Caia, Canolfan Adnoddau Gwersyllt, Gofal Plant Little Sunflowers, Grŵp y Gymuned Bortiwgaleg a chynrychiolwyr o’r Trydydd Sector yn Nerbyniad Nadolig a Gwasanaeth Carolau Nadolig AVOW; ac fe gafodd yr Uchel Siryf Clwyd Stephanie Catherall a Maer Wrecsam, y Cynghorydd Rob Walsh, hefyd gyfle i adael eu holion.

“‘Sefyll gyda’n Gilydd”

Cafodd y murlun ei ddadorchuddio ar Sgwâr y Frenhines a bydd ffotograff ohono yn cael ei argraffu ar gynfas a’i arddangos yn yr arddangosfa yn Llundain ddydd Llun, 27 Ionawr, ochr yn ochr â gweithiau celf eraill gan sefydliadau ar hyd a lled y DU. Bydd yr arddangosfa, sydd wedi’i churadu gan Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio’r Holocost, yn cofio 75 mlynedd ers rhyddhau carcharorion gwersyll crynhoi Auschwitz-Birkenau ac yn lansio thema Diwrnod Cofio’r Holocost 2020, sef ‘Sefyll Gyda’n Gilydd’.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae’n rhaid i ni ddiolch i AVOW am drefnu murlun priodol iawn ar ran Wrecsam i’w arddangos yn Llundain. Mae’n ddyletswydd arnom ni i beidio ag anghofio erchylltra’r gwersylloedd crynhoi a, gwaetha’r modd, yr erchylltra sy’n dal yn digwydd mewn rhai rhannau o’r byd heddiw. Mae Wrecsam yn ardal llawn amrywiaeth ac fe ddylem ni ymfalchïo yn ein natur gynhwysol a chroesawgar a pharhau i wrthwynebu pob ffurf ar anghydraddoldeb a chreulondeb.”

Ers pum mlynedd bellach mae AVOW wedi bod yn trefnu digwyddiadau ar Ddiwrnod Cofio’r Holocost. Ar gyfer 2020 mae AVOW wedi trefnu bore o siaradwyr, gweithgareddau a gwasanaeth cofio. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal o 10.30am tan 12pm ddydd Gwener 24 Ionawr 2020 yn y Neuadd Goffa, Bodhyfryd, Wrecsam. Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim ac mae modd archebu tocynnau trwy Eventbrite: https://bit.ly/2r4hiUk

Diwrnod Cofio'r Holocost, Arddangosfa #75MemorialFlames
Diwrnod Cofio'r Holocost, Arddangosfa #75MemorialFlames
Diwrnod Cofio'r Holocost, Arddangosfa #75MemorialFlames
Diwrnod Cofio'r Holocost, Arddangosfa #75MemorialFlames
Diwrnod Cofio'r Holocost, Arddangosfa #75MemorialFlames
Diwrnod Cofio'r Holocost, Arddangosfa #75MemorialFlames

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″] COFRESTRWCH FI RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol A aethoch chi i'r ysgol ym Mwrdeistref Sir Wrecsam? Rydym angen eich lluniau! A aethoch chi i’r ysgol ym Mwrdeistref Sir Wrecsam? Rydym angen eich lluniau!
Erthygl nesaf Parcio am ddim Cynllun parcio am ddim ar ôl 2pm wedi’i gymeradwyo – gallai ddod i rym ar ddechrau mis Ebrill

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Sam Gardner
DigwyddiadauArallBusnes ac addysg

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 22, 2026
Wrecsam 2029
Pobl a lle

Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU

Hydref 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English