Mae’n wythnos arall o addysgu gartref ac mae pawb yn falch iawn o sut mae rhieni wedi derbyn yr her o ymdopi gydag addysgu gartref.
Mae ein hysgolion yn gwneud gwaith gwych hefyd yn gofalu am blant gweithwyr hanfodol.
Rydym yn dweud “Diolch yn Fawr” wrth bob un ohonoch a pharhewch gyda’r gwaith da.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Cofiwch ofalu am eich lles eich hun hefyd a pheidiwch â phoeni’n ormodol am ddilyn arferion ysgol. Rydym i gyd eisiau rhieni a phlant hapus pan fydd hyn i gyd drosodd.
Unwaith eto, rydym wedi crynhoi’r hyn sydd ar gael i chi a’ch plant ar-lein os hoffech gael golwg:
Dysgu Digidol!
Cynlluniau gwersi, dechrau sgwrs, gweithgareddau, fideos ac adnoddau eraill i helpu pobl ifanc gael grym yn y byd digidol. Adnoddau i rieni, gofalwyr ac athrawon.
Addysg Gynnar Wedi’i Hariannu Wrecsam
Mae yna dudalen Facebook newydd wych i helpu ar gyfer cyfeirio i syniadau addysgu gartref.
Dilynwch nhw ar Facebook – Addysg Gynnar o Gartref wedi’i Ariannu gan Wrecsam.
Mae Elsa wedi cynhyrchu llyfr stori i egluro’r Coronafeirws i blant….. Mwy o wybodaeth yma.
Mae gan Wildlife Watch lawer o weithgareddau o wneud eich lliw naturiol eich hun, gwneud eich ysbienddrych eich hun i greu cerddoriaeth gyda natur. Llawn hwyl hefyd. Gallwch ddod o hyd iddynt ar y ddolen hon.
Cofiwch am Hwb
Gall pob dysgwr yng Nghymru gael hyd i adnoddau dysgu o bell drwy eu cyfrif Hwb. Mae’r rhain yn cynnwys: Office 365, Microsoft Education Edition, G Suite, Google Classroom a Just2Easy. Mae’n adnodd gwych felly gwnewch ddefnydd llawn ohono.
Cael “noson i mewn” arall
Gan fod yr orielau yn Tŷ Pawb wedi cau dros dro, byddant yn darparu rhaglen amgen am y tro – ‘Celf yn y Cartref Tŷ Pawb’.
Bydd agweddau o’n rhaglen arddangos ar gael ar-lein, ac yn gweithio gydag artistiaid i greu prosiectau i chi gymryd rhan gartref. Maent eisiau helpu cynulleidfaoedd deimlo’r cysylltiad gyda ni a’i gilydd, mewn ffordd gelfyddydol.
Maent hefyd yn edrych ymlaen at ddangos eich holl allbynnau creadigol fel rhan o arddangosfa agored yn Tŷ Pawb, yn ddiweddarach eleni.
Maent yn ffrydio’n Fyw ar nos Wener, gigiau hefyd o 7.30pm
Gwiriwch drwy ddilyn y ddolen hon.
Amser cwis
Beth am gymryd rhan yn y cwisiau gwybodaeth gyffredinol hyn i deuluoedd?
Cwis1 – Gwybodaeth Gyffredinol
Cwis 2 – Gwybodaeth Gyffredinol
Ac yn olaf …..
Mae yna wers Gymraeg ddyddiol am 10 munud i ddysgwyr am 3pm yn cael eu darlledu drwy Facebook. Gwych i bob oedran! Dewch i gael golwg yma
Rydym eisoes wedi rhoi llawer o wybodaeth ar beth gallwch ei wneud i gefnogi addysgu gartref a gallwch wirio’r cyfan yn yr erthyglau isod:
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19