Mae dydd Sul 25 Tachwedd yn nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn, Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod. I godi ymwybyddiaeth, mae White Ribbon UK yn gofyn i bobl wisgo rhuban gwyn fel addewid personol i beidio byth â chyflawni, caniatáu nag aros yn dawel am drais gan ddynion yn erbyn merched.
Mae’r ymgyrch eleni yn canolbwyntio ar gam-drin domestig, gan ddweud ‘If love hurts, it’s not love”. Er mwyn edrych ar y mater yma a materion eraill sy’n ymwneud â cham-drin domestig, bydd Stondin Wybodaeth yn cael ei rhedeg ar y cyd rhyngom ni, BAWSO, Cam wrth Gam, Cymorth i Ferched Cymru a Hafan Cymru lle gall dioddefwyr cam-drin domestig gael cyngor a gwybodaeth. Fe’i cynhelir yn Nhŷ Pawb ar 26 Tachwedd rhwng 10am a 1pm. Bydd croeso i bawb.
Meddai’r Cynghorydd Bill Baldwin, Aelod Arweiniol y Gwasanaethau Plant: “Rwy’n llwyr gefnogi Ymgyrch y Rhuban Gwyn ac fe fydd yn annog pobl i arwyddo’r Addewid fel rwyf i wedi’i wneud a gwneud safiad yn y frwydr yn erbyn cam-drin domestig”.
Gallwch arwyddo’r addewid yma.
Mae yna fideo pwerus hefyd i bwysleisio thema “If love hurts – its’ not love” ac fe allwch ei wylio isod:
https://www.youtube.com/watch?v=QbVACgD1Tqc&t=6s
Meddai’r Cyfarwyddwr, Peter Giblin, “Mae’r ffilm yn archwilio agwedd emosiynol cam-drin domestig a sut mae’r cam-drin hwnnw yn digwydd mewn cyd-destun cariad. Mae’n cymryd hyd at wyth achos o gam-drin ar gyfartaledd cyn y bydd dioddefwr yn teimlo o gall ddweud wrth rywun. Yn aml, mae dioddefwyr cam-drin domestig yn caru’r sawl sy’n eu cam-drin, yn ogystal â bod eu hofn. Yn aml, ni fydd dioddefwyr yn sylweddoli eu bod mewn perthynas gamdriniol. Dyma pam mai neges y ffilm yw “If love hurts, it’s not love’.
Dywedodd Anthea Sully, Prif Weithredwr White Ribbon UK Er mwyn i newid go iawn ddigwydd, rhaid i ddynion ddeall y systemau sydd ar waith sy’n arwain at wrywdod gwenwynig a thrais gan ddynion yn erbyn merched. Mae’r ffilm hon yn dangos mewn modd pwerus effaith camdriniaeth ym mhob un o’i ffurfiau mewn perthnasoedd. Mae White Ribbon UK yn gofyn i ddynion gymryd cyfrifoldeb dros roi diwedd ar drais gan ddynion yn erbyn menywod drwy fod yn wylwyr gweithredol, tynnu sylw at gamdriniaeth a rhagfarn ar sail rhyw ymhlith cyfoedion; siarad yn agored am ddiwylliannau gwrywaidd a all arwain at gamdriniaeth a pham mae’n rhaid i ddynion wneud safiad yn eu herbyn.
Caiff If Love Hurts ei sgrinio yn Nhŷ’r Cyffredin ar 28 Tachwedd i gynulleidfa o Aelodau Seneddol ac ymgyrchwyr.
Byddwch yn rhan o’r sgwrs ar gyfryngau cymdeithasol trwy ddefnyddio #IfLoveHurts
DWI ISIO MYNEGI FY MARN!
DOES DIM OTS GEN