Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Adnewyddu marchnadoedd dan do hanesyddol Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Adnewyddu marchnadoedd dan do hanesyddol Wrecsam
Y cyngorBusnes ac addysg

Adnewyddu marchnadoedd dan do hanesyddol Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 18, 2024 9:55 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Markets
RHANNU

Mae’r gwaith sylweddol i adnewyddu dwy o’r marchnadoedd dan do hanesyddol yn Wrecsam yn dod yn ei flaen yn dda a dylai fod wedi gorffen yn ddiweddarach eleni.

Dechreuodd y gwaith yn yr haf y llynedd wedi i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam benodi SWG Construction o’r Trallwng i arwain y prosiect i ailwampio’r adeiladau’n llwyr.

Mae adeiladau Gradd II y Farchnad Gyffredinol a Marchnad y Cigyddion yn cael eu hailwampio fel rhan o Gynllun Treftadaeth Treflun Wrecsam sydd wedi’i ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol (diolch i bawb sy’n chwarae’r Loteri), Cronfa Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a rhaglen gyfalaf Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Meddai Jacqui Gough o SWG Construction: “Mae’r ailwampio’n dod yn ei flaen yn dda – mae’n rhaglen helaeth o waith adnewyddu ac rydyn ni’n ffyddiog y bydd pobl Wrecsam yn falch iawn ohono.

“Mae’r caffi wedi’i orffen ac yn croesawu cwsmeriaid eto, rydyn ni wrthi’n gosod stondinau ym Marchnad y Cigyddion ac mae’r seiri coed, y peirianwyr a’r trydanwyr wrthi’n gosod ar ôl plastro.

Mae gwaith addurno’n dod yn ei flaen ac rydyn ni hefyd wedi cael hwyl ar drwsio’r gwaith cerrig ac wyneb yr adeilad ar y Stryt Fawr. Mae hwn wedi bod yn brosiect difyr, ac fe ddaethon ni o hyd i lawer o nodweddion hanesyddol y gall pobl eu gweld yn y marchnadoedd newydd.”

“Mae’r marchnadoedd yn bwysig iawn o safbwynt adfywio canol y ddinas”

Meddai’r Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi ac Adfywio: “Mae’n braf clywed bod y gwaith adnewyddu’n dod yn ei flaen yn dda. Mae’r marchnadoedd yn bwysig iawn o safbwynt adfywio canol y ddinas ac mae pawb yn edrych ymlaen at weld y masnachwyr a’r cyhoedd yn dychwelyd yno cyn diwedd y flwyddyn.”

Bu SWG Construction hefyd yn gosod a phlastro nenfydau a waliau stydiau o amgylch stondinau, gosod draeniau a phibellau dan y ddaear a gosod estyll dur a phren addurnol yn y Farchnad Gyffredinol.

Bydd yno drefn newydd ym Marchnad y Cigyddion wedi gosod y stondinau ynghanol y neuadd, gyda’r nod o ddenu mwy o gwsmeriaid a’u hannog i grwydro o gwmpas y farchnad.

Cynigir unedau hyblyg i fasnachwyr a dylai dyluniad canolog y stondinau ei gwneud yn haws i bobl fynd a dod. Ar ôl gorffen y gwaith, bydd gan y ddwy Farchnad well cyfleustodau, rhwydwaith WiFi, Teledu Cylch Cyfyng a gwell mynediad i bobl anabl, a bydd gan y gymuned gyfan farchnadoedd mwy graenus i ymweld â hwy.

Markets
Adnewyddu marchnadoedd dan do hanesyddol Wrecsam
marchnadoedd
Adnewyddu marchnadoedd dan do hanesyddol Wrecsam
Adnewyddu marchnadoedd dan do hanesyddol Wrecsam
marchnadoedd
Adnewyddu marchnadoedd dan do hanesyddol Wrecsam

Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Bydd gwaith yn dechrau ar Heol Offa, Johnstown ddiwedd mis Mehefin

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch

Rhannu
Erthygl flaenorol Gwirfoddolwr ac aelod o staff yng Nghynllun Cefnogwyr Rhieni Wrecsam yn ennill gwobr genedlaethol Gwirfoddolwr ac aelod o staff yng Nghynllun Cefnogwyr Rhieni Wrecsam yn ennill gwobr genedlaethol
Erthygl nesaf Y Picnic Mawr Wrecsam. Mynediad am ddim. Parc Bellevue 22 Mehefin 1pm-5pm / The Big Wrexham Picnic. Free entry. Bellevue Park - June 22, 1pm-5pm. Picnic Mawr Wrecsam! Dewch draw ddydd Sadwrn yma (22 Mehefin) a helpwch i ddathlu ein dinas

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Wrecsam letters at Erddig
Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig
Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Poppy field
Wrecsam yn Cofio
Digwyddiadau
Hydref 2, 2026
Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Mae rhagolygon gyrfa newydd ychydig o gliciau i ffwrdd! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf...
Busnes ac addysg

Mae rhagolygon gyrfa newydd ychydig o gliciau i ffwrdd! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…

Medi 29, 2026
Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las
Y cyngor

Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las

Medi 29, 2026
Cystadleuaeth Dylunio Cymeriad
Busnes ac addysgDigwyddiadauPobl a lle

Lansio cystadleuaeth gelf i blant wrth i ddathliadau’r Flwyddyn o Ryfeddod barhau

Medi 29, 2026
Ysgol I D Hooson
Busnes ac addysg

Gwaith yn Ysgol I D Hooson yn dechrau’n swyddogol

Medi 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English