Mae staff y llyfrgell wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â staff o’r tîm gofal cymdeithasol i oedolion i helpu i ddarparu prosiect newydd i aelodau ynysig a diamddiffyn Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Prynwyd nifer o iPads gyda’r Grant Cynhwysiant Cymunedol (a sefydlwyd i helpu aelodau diamddiffyn o’r gymuned) i gefnogi’r rhai sydd wedi cael eu nodi fel bod mewn risg o gael eu hynysu ymhellach fyth o’r rhai sy’n bwysig iddynt. Mae’r iPads yn achubiaeth iddynt er mwyn cysylltu â ffrindiau a theulu a gwneud iddynt deimlo yn fwy cysylltiedig â phobl, ar adeg anodd iawn.
Diolch i’r grant, mae llyfrgelloedd yn Wrecsam hefyd wedi gallu rhoi iPads 5 a 4G i bobl yn y gymuned sydd fel arfer yn defnyddio gwasanaethau llyfrgell, ond oherwydd y cyfyngiadau presennol a diffyg technoleg yn y cartref, wedi methu gwneud y mwyaf o’r cynnig digidol.
Mae Elodie, merch ifanc sy’n defnyddio Gwasanaeth Llyfrgell Homelink a sydd wedi cael ei rhoi ar y rhestr warchod oherwydd cyflyrau iechyd difrifol, wedi bod yn gwarchod ei hun drwy gydol y cyfnod clo, ac yn parhau i wneud hynny tra bod angen.
Defnyddio ei iPad bob diwrnod
Mae Elodie wedi bod dan ofal Tŷ Gobaith, a ddaeth i ben ar unwaith pan ddechreuodd y cyfnod clo, ond gyda’r iPad, mae hi bellach yn defnyddio zoom a FaceTime i gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a’i rhwydwaith cefnogi. Mae Elodie wedi bod yn defnyddio ei iPad bob diwrnod, a dywedodd bod hyn wedi gwneud y cyfnod clo yn llawer haws. Mae hi hefyd wedi cael addysg yn y cartref gan ddefnyddio’r iPad, yn ogystal â’i ddefnyddio i gadw mewn cysylltiad â’i theulu.
Mae Janet Roberts, cwsmer Llyfrgell Homelink arall, hefyd wedi bod yn ynysu ers mis Mawrth. Mae hi’n byw mewn fflat gyda gerddi a rennir, ac er gwaethaf y tywydd braf, nid yw hi wedi mentro allan o gwbl. Diolch i’r iPad, mae hi bellach yn gallu lawrlwytho llyfrau clywedol am ddim gan y gwasanaeth llyfrgell a chadw mewn cysylltiad â’i brawd a’i gi bach newydd, ac mae hi’n teimlo’n llawer hapusach am ei sefyllfa.
“Fydda i fyth yn unig gyda llyfr i’w ddarllen”
Mae gan Barbara Evans ganser, ac felly trwy gydol y cyfnod clo, nid yw hi wedi dod i gyswllt ag unrhyw un. Mae hi’n ddarllenydd brwd, ac yn darllen tua 25 o lyfrau bob mis, felly fe ddioddefodd pan ddaeth y gwasanaeth llyfrgell i ben a phan gafodd ymweliadau Homelink eu hatal dros dro. Ar ôl derbyn ei iPad, dywedodd “Fydda i fyth yn unig gyda llyfr i’w ddarllen”. Mae ei theulu yn byw yn yr Aifft, felly bydd hi’n defnyddio’r iPad i gysylltu â nhw drwy Facetime neu Zoom, er mwyn sicrhau ei theulu ei bod hi’n cadw’n iach.
Dywedodd y Cyng. John Pritchard, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrthdlodi: “Mae’r iPads yn fenter wych ac yn darparu cyswllt hanfodol gyda ffrindiau a theulu y rhai nad ydynt yn gallu mynd allan oherwydd eu bod yn gwarchod eu hunain. Hoffwn ddiolch i bawb oedd yn rhan o’r gwaith i wireddu’r fenter a dymunaf yn dda i bawb wrth i ni fynd trwy’r wythnosau nesaf.”
Dywedodd y Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Dyma esiamplau gwych o weithio mewn partneriaeth ar draws adrannau, i helpu’r rhai mwyaf diamddiffyn yn ein plith. Hoffwn i hefyd ddiolch i bawb am gynnig a darparu’r gefnogaeth gymunedol hanfodol.”
Os nad allwch ymweld â’r llyfrgell na defnyddio eu gwasanaeth Archebu a Chasglu, ac os oes gennych fynediad at ddyfais ddigidol, beth am lawrlwytho e-lyfr, e-lyfr clywedol neu e-gylchgrawn am ddim? Ewch i www.wrecsam.gov.uk/llyfrgelloedd a chliciwch ar y ddolen gwasanaeth ar-lein lle gallwch ddod o hyd i nifer o bethau i’w gwneud.
Sut i gael prawf os oes gennych symptomau Coronafirws
YMGEISIWCH RŴAN