Mae Celc Bronington, y trysorau canoloesol sydd wedi cael eu henwi ar ôl yr ardal y cawsant eu darganfod, bellach ar ddangos yn barhaol yn Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Cafodd y celc ei gladdu rhywdro ar ôl 1465 ac mae’n cynnwys 52 ceiniog a modrwy saffir ysblennydd. Cafodd ei ddarganfod gan glwb defnyddio canfodyddion metel lleol rhwng 2013 a 2017 ger Whitewell, Bronington.
Mae’r ceiniogau arian yn dyddio o deyrnasiad Edward I drwodd i Edward IV ac yn cynnwys 4 darn aur, darnau grôt arian, hanner grotiau a cheiniogau arian. Mae’r fodrwy aur yn cynnwys saffir glas tywyll, a gafodd ei gwisgo efallai i yrru’r diafol i ffwrdd. Dyma’r celc cyntaf o’i fath i gael ei ddarganfod yn ardal Wrecsam.
“Yn Gudd yn y Gororau”
Mae’r Amgueddfa wedi cydweithio â’r gymuned leol yn rhan o brosiect ‘Yn Gudd yn y Gororau’, a chafodd pobl leol gyfle i weld rhannau o’r gelc mewn lleoliadau amrywiol yn cynnwys Canolfan Enfys Llannerch Banna ym mis Tachwedd y llynedd.
Cafodd y rhai iau gyfle i gymryd rhan a bu disgyblion o Ysgol Gynradd Bronington ac Ysgol Sant Chad yn gweithio gyda Sophie Mckeand, Bardd Pobl Ifanc Cymru trwy greu cerddi; bu Gwirfoddolwyr Gweu a Phwytho yr amgueddfa yn creu gwisgoedd o’r 15fed Ganrif i ymwelwyr gan yr arbenigwr Sarah Thursfield, Cymhorthydd Teilwra Canoloesol; tra bod Gwirfoddolwyr Maelor, David a Jill Burton, wedi ymchwilio i’r cyfnod hanesyddol yn lleol â chynorthwyo â’r daith.
“Nifer fawr o bobl yn cymryd rhan”
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol, “Rydym yn hynod ddiolchgar i brosiect Hel Trysor; Hel Straeon am gefnogi’r prosiect gwerth chweil yma, mae’n annhebygol iawn y byddai’r amgueddfa wedi llwyddo i gael gafael ar ddarganfyddiad mor werthfawr heb y gefnogaeth ariannol a ddarparwyd gan y cynllun. Mae wedi galluogi nifer fawr o bobl i ymwneud â’n treftadaeth ganoloesol trwy amrywiaeth o ffyrdd gwahanol o farddoniaeth i wisgoedd. Ar y cyfan ryw’n siŵr ei fod wedi bod yn brofiad gwerth chweil i bawb.’
Mae’r prosiect wedi cael ei ariannu gan gynllun Hel Trysor: Hel Straeon a ddatblygwyd gan Amgueddfa Cymru a Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Cymru ac fe’i ariannwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Mae’r prosiect wedi helpu Amgueddfa Wrecsam i gaffael y celc yn ogystal ag elfennau’r prosiect a fanylir uchod.
COFRESTRWCH AM FILIAU DI-BAPUR