Mae’r Swyddog Prosiect Isadeiledd Gwyrdd wedi cynnig gwelliannau amgylcheddol cyffrous ar gyfer Parc Caia a Phlas Madoc, a gwahoddir preswylwyr yn yr ardaloedd hyn i roi eu barn amdanynt nawr.
Mae’r cynigion wedi’u llunio gan y Swyddog Isadeiledd Gwyrdd ac maen nhw’n dod ar ôl gwelliannau a welwyd eisoes yn yr ardaloedd hyn.
Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws
Os cânt groeso gan breswylwyr, bydd dolydd bywyd gwyllt, ardaloedd fforio naturiol, a pherllannau yn yr ardaloedd, a bydd gan un ardal Ffynidwydden yn arbennig ar gyfer Dathliadau’r Nadolig.
Mae’r lluniau isod yn dangos beth sy’n cael ei gynnig ar gyfer Parc Caia – Rhodfa Eaton, Y Wern, The Dunks, Queensway a Gwenfro ac ar gyfer Plas Madoc yn Ffordd Hampden a thir ger y Cae Chwarae a’r Ganolfan Hamdden.
Mae’r Prosiect Isadeiledd Gwyrdd wedi gweld gwelliannau enfawr…
Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’r rhain yn gynigion creadigol a dychmygus ac rwy’n cefnogi’r gwelliannau ar gyfer yr ardaloedd hyn yn fawr. Mae’r gwaith a wnaed eisoes gan y Swyddog Prosiect Isadeiledd Gwyrdd wedi gweld gwelliannau amgylcheddol ar raddfa fawr ym Mharc Caia, fel a welwyd gan y Ddôl Blodau Gwyllt a oedd wedi blodeuo’n llawn yn gynharach eleni. Mae croeso i chi roi eich barn am y cynigion.”
Dywedodd Jacinta Challinor, Swyddog Isadeiledd Gwyrdd: “Rydym yn gobeithio y bydd pobl yn croesawu’r cynigion a fydd yn sicrhau gwelliannau ecolegol ac amgylcheddol i’r ardaloedd a nodwyd. Rydym hefyd yn hapus i bobl gynnig awgrymiadau am brosiectau eraill yn yr ardaloedd hyn, felly cysylltwch â ni a gallwn edrych ar beth allwn ei wneud gyda gwelliannau yn y dyfodol.”
I gymryd rhan a rhoi eich barn, anfonwch e-bost at Jacinta.challinor@wrexham.gov.uk neu cysylltwch â’ch cynghorydd lleol.
Mae’r ymgynghoriad yn digwydd nawr a bydd yn dod i ben ddydd Gwener, 18 Medi.
Edrychwch beth a gyflawnwyd ym Mharc Caia yn gynharach eleni:
YMGEISIWCH RŴAN