Rydym i gyd yn gwybod bod angen plannu mwy o goed er mwyn mynd i’r afael â newid hinsawdd, lleihau ein hôl-troed carbon a diogelu cynefinoedd i bobl a bywyd gwyllt.
Rydym yn mynd gam ymhellach nawr er mwyn dangos ein hymrwymiad i gefnogi Wrecsam mwy glân a gwyrdd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, trwy lansio ‘Addewid Coetir’.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Rydym yn cydnabod bod coed a choetiroedd yn rhan hanfodol o’n trefi a chefn gwlad, felly rydym wedi datblygu ‘Addewid Coetir’ i ddangos ein hymrwymiad i gynyddu gorchuddion canopi’r coed a diogelu coetir newydd a phresennol ar draws y fwrdeistref sirol.
Meddai’r Cyng. David A Bithell, Cefnogwr Hinsawdd, “Mae Coed a Choetiroedd yn gynefinoedd pwysig i amrywiaeth lawn o fywyd gwyllt, gan chwarae rhan hanfodol yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd; ac maen nhw hefyd yn bwysig ar gyfer ein hiechyd, lles ac ansawdd bywyd. Ni allwn gymryd eu dyfodol yn ganiataol.”
Mae’r addewid hefyd yn helpu pobl i fynd allan i’r awyr agored i fwynhau coed a choetiroedd yn eu cymdogaeth. Bydd nifer o ddigwyddiadau ar gael i ddysgu mwy am ein coed a’n coetiroedd yn ystod yr hydref a’r gaeaf, gan gynnwys diwrnodau plannu coed, llwybr coed y ddinas a sesiynau crefft tymhorol. Caiff pob un o’r digwyddiadau hyn eu hysbysebu trwy’r cyfryngau cymdeithasol a thrwy rhestr bostio’r Addewid.
Mae’r Addewid Coetir yn bwysig
Dywedodd y Cyng. Hugh Jones, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd, “Mae coed yn rhan mor bwysig o’n hamgylchedd ac rydym yn falch iawn o ddiogelu’r coed sydd gennym yn ogystal â chreu coetiroedd newydd ar draws y fwrdeistref sirol. Mae’r Addewid Coetir yn bwysig oherwydd mae’n hawdd cofrestru i ddysgu mwy am ein coetiroedd. Gyda’n gilydd, gallwn ddiogelu’r cynefinoedd hanfodol hyn am genedlaethau i ddod.”
Rydym yn annog pawb i ymuno â’r addewid, gan gynnwys rhai sy’n rhan o fusnes lleol, grŵp cymunedol neu sefydliad.
Trwy gofrestru i’r addewid, byddwch chi’n ymuno â’n rhestr bostio, a gallwch ganfod sut i gymryd rhan mewn 4 ffordd wahanol:
1. Creu coetir
Plannu coed i greu coetir newydd neu ymestyn coetiroedd presennol ar draws Wrecsam. Ein helpu i blannu rhagor o goed trwy ymuno ag un o’n cynlluniau plannu coed ar draws y sir.
2. Cadwraeth coetir
Diogelu a gwella ardaloedd coetir presennol ar gyfer bioamrywiaeth, adfer newid hinsawdd a sicrhau cynefinoedd o ansawdd da.
3. Dathlu coetir
Caniatáu cyswllt â natur mewn coetiroedd ar gyfer iechyd, lles, chwarae ac addysg.
4. Cymeradwyo coetir
Deall pa mor werthfawr yw coed a choetiroedd i’n bywydau bob dydd.
Gallwch ddarllen mwy am Addewid Coetir Wrecsam yn ogystal â chofrestru ar gyfer y rhestr bostio ar ein gwefan. Neu dilynwch ni ar Facebook a Twitter ar Addewid Coetir Wrecsam/Wrexham Woodland Pledge.
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH