Yn gynharach heddiw cafodd hyfforddiant diogelu newydd ei lansio sy’n anelu at helpu gweithwyr gofal i ddiogelu pobl ddiamddiffyn rhag troseddau ar stepen y drws a chynlluniau twyll yn Wrecsam.
Mae’r sesiynau hyfforddi hyn yn dechrau cyflwyno hyfforddiant am ddim i weithwyr proffesiynol y sector iechyd a gofal, a fydd yn para dros y blynyddoedd nesaf.
Mae ymgyrch REPEAT (Reinforce Elderly Persons Education at All Times) yn rhoi pwyslais ar ddiogelu pobl hŷn ac oedolion diamddiffyn rhag cam-drin ariannol a throseddau ar stepen y drws. Mae pawb yn haeddu teimlo a bod yn ddiogel yn eu cartrefi eu hunain ac mae’r hyfforddiant newydd hwn yn ceisio atal y troseddau hyn mor fuan ag sy’n bosibl.
Mae ymgyrch REPEAT eisoes yn cael ei redeg yn llwyddiannus ar draws Swydd Lincoln, Swydd Northampton a Gogledd Iwerddon ac mae’n ffordd bwysig o drosglwyddo negeseuon diogelwch i’r gynulleidfa gywir.
Dywedodd Ceri Martin, Ymarferydd Safonau Masnach Siartredig: “Mae’n eithriadol o anodd i Safonau Masnach a Heddlu Gogledd Cymru atal y mathau hyn o droseddau ar eu pennau eu hunain.
“Fodd bynnag, mae darparu hyfforddiant ardderchog ymgyrch REPEAT i weithwyr gofal iechyd – sy’n ymweld â phobl a allai fod yn ddioddefwyr yn eu cartrefi yn ddyddiol – yn cynnig cyfle i weithwyr gofal ganfod troseddau posibl ac adrodd eu hamheuon yn uniongyrchol wrth swyddogion. Gallan nhw fod yn lygaid a chlustiau yn y gymuned ar ein rhan.”
Mae Gwasanaeth Safonau Masnach Cyngor Wrecsam a Heddlu Gogledd Cymru yn cefnogi darpariaeth ymgyrch REPEAT yn Wrecsam a chynhaliwyd y sesiynau hyfforddi cyntaf heddiw yn Direct Health ar Ystad Ddiwydiannol Wrecsam.
Roedd Lyndsey Thomas Rheolwr Cangen Direct Health, ynghyd â’r y Sarsiant Alison Sharp o Heddlu Gogledd Cymru a Ceri Martin o Safonau Masnach Cyngor Wrecsam yn bresennol yn sesiwn y prynhawn heddiw.
Dywedodd Reg Burrell, cyfarwyddwr ymgyrch REPEAT: “Mae troseddwyr yn targedu’r rhai mwyaf diamddiffyn yn ein cymdeithas fel mater o drefn. Maen nhw’n targedu pobl sy’n byw ar eu pennau eu hunain, sy’n hŷn neu’n cael anhawster symud ac yn arbennig y rheiny sy’n fregus ac sydd o bosibl yn dioddef o ddementia.
“Mae hyfforddiant ymgyrch REPEAT yn rhoi’r wybodaeth gywir i’r rheiny sy’n rhyngweithio’n ddyddiol â phobl sydd mewn perygl am y cyngor synhwyrol y dylent ei roi, beth i chwilio amdano a beth i’w wneud os canfyddir trosedd.
“Trwy ddefnyddio pobl wych fel hyn sydd mewn swyddi o ymddiriedaeth, gallwn helpu i ddiogelu’r bobl fwyaf diamddiffyn yn ein cymuned yn erbyn y troseddau ffiaidd hyn a helpu i’w cadw’n ddiogel.”
Bydd y gweithwyr gofal iechyd yn cael mynediad at safonau masnach a swyddogion yr heddlu, yn ogystal â gallu adrodd pryderon yn uniongyrchol i dîm ymgyrch REPEAT. Daw’r hyfforddiant gan bobl sydd â chyfoeth o wybodaeth am y ffyrdd y cyflawnir y troseddau.
Dywedodd Marilyn Barratt, ymgynghorydd ymgyrch REPEAT: “Yn ystod fy nghyfnod yn gweithio gydag Uned Cudd-wybodaeth Genedlaethol yr heddlu, gwelais ddigwyddiadau dinistriol yn cael eu hadrodd yn ddyddiol o bob rhan o’r wlad. Gallaf esbonio’r dulliau y maent yn eu defnyddio i dwyllo eu ffordd i gartrefi a bywydau pobl.
“Gallant droi o fod yn ddymunol i fod yn fygythiol a dychrynllyd tuag at y rheiny sy’n gwrando arnyn nhw. Mae ymgyrch REPEAT yn rhoi llwyfan i ni hyfforddi gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol – neu unrhyw un sy’n edrych ar ôl pobl ddiamddiffyn mewn gwirionedd – ynglŷn â sut mae troseddwyr yn gweithio a sut y gallant helpu i amddiffyn y bobl y maent yn gofalu amdanyn nhw.”
Os hoffai unrhyw sefydliadau gymryd rhan yn hyfforddiant ymgyrch REPEAT, cysylltwch â info@oprepeat.co.uk neu tradstand@wrexham.gov.uk
Os ydych chi eisiau adrodd am rywbeth amheus, cysylltwch â Gwasanaethau Cwsmeriaid Cyngor ar Bopeth ar 03454 040506 neu Heddlu Gogledd Cymru ar 101.
Cadwch yn ddiogel rhag twyllwyr gyda’n rhybuddion!
Cofrestrwch i gael rhybuddion am sgamiau yma!