Fel y gwyddoch, oherwydd COVID 19, mae llyfrgelloedd Wrecsam ar gau hyd nes clywir yn wahanol.
Fodd bynnag, os ydych chi’n aelod o’ch llyfrgell leol fe allwch chi gael gafael ar lond berfa o ddeunydd darllen o gysur eich cartref a, gorau oll, y cwbl yn rhad ac am ddim! Os nad ydych chi’n aelod, sgroliwch i lawr i ddarganfod sut fedrwch chi ymuno ar-lein.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Lawrlwythwch ap Borrowbox i’ch ffôn neu’ch dyfais electronig ac fe gewch chi hyd i gannoedd o e-lyfrausain a thros 25,000 o e-lyfrau.
Fe allwch chi hefyd ddefnyddio Borrowbox i bori drwy 200 o gylchgronau.
Os ydych chi’n hoff o ddarllen cylchgronau a llyfrau comics, beth am lawrlwytho ap digidol RB? Mae yma e-gylchgronau ar gyfer pob oed, gan gynnwys Spider Man, Avengers ac X-Men Marvel.
Fe gewch hyd i bopeth sydd arnoch chi angen ei wybod, yn ogystal â dolenni i’r apiau y gallwch chi eu lawrlwytho, ar dudalen ar-lein gwasanaethau Llyfrgell Wrecsam.
Hefyd, os oes gennych chi lyfrau ar fenthyg gartref, peidiwch â phoeni, ni fyddwn yn codi dirwy arnoch chi. Yn hytrach, bydd y llyfrau yn cael eu hadnewyddu’n awtomatig tan y byddwch chi’n gallu eu dychwelyd i’r llyfrgell.
Os nad ydych chi’n aelod o’r llyfrgell, ewch i dudalen we Llyfrgelloedd Wrecsam i ymuno ar-lein.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19