Mae Cylch Chwarae a Mwy Heulfan wedi derbyn Gwobr Genedlaethol Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy gan Lywodraeth Cymru.
Mae ennill y wobr glodwiw’n golygu bod Cylch Chwarae a Mwy Heulfan wedi llwyddo i ddangos eu bod wedi cyflawni camau gweithredu ar ystod eang o faterion iechyd gan gynnwys maeth ac iechyd y geg, gweithgarwch corfforol/chwarae’n egnïol, iechyd meddwl ac emosiynol, lles a pherthnasoedd, yr amgylchedd, diogelwch, hylendid ac iechyd a lles yn y gweithle.
Ydych chi’n ddioddefwr siarc benthyg arian? Ffoniwch 0300 123 311.
Yn ogystal â chanolbwyntio ar y meysydd iechyd hynny, maent hefyd wedi ennill ‘Gwobr Boliau Bach’ sy’n cydnabod y bwyd sy’n cael ei weini yn y lleoliad. Mae ganddynt fan awyr agored gwych i blant chwarae a dysgu yn ogystal â safonau uchel o ran diogelwch a hylendid.
Dywedodd Louise Roberts, Swyddog Lleoliadau Cyn-ysgol Iach Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Mae Cylch Chwarae a Mwy Heulfan wedi dangos bod iechyd a lles cyffredinol plant a staff yn flaenllaw iawn yn y lleoliad.
“Mae amgylchedd y lleoliad yn hyfryd y tu mewn a’r tu allan. Maent yn cofleidio pob menter sy’n gallu helpu i ddylanwadu ar arfer yn y lleoliad a gwneud y profiad i staff a phlant yn un arbennig iawn. Rwy’n siŵr y byddant yn parhau i hyrwyddo amgylchedd iach a hapus ar gyfer y plant a fydd yn derbyn eu gofal yn y dyfodol.”
Dywedodd Mrs Griffith, y Goruchwyliwr, “Rydyn ni’n falch iawn o ennill gwobr y Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy! Rydyn ni’n hynod ddiolchgar am y gydnabyddiaeth rydyn ni wedi’i chael a byddwn yn dal ati i annog plant, rhieni a staff i ddatblygu a chynnal ffordd iach o fyw.
“Rydyn ni’n ffodus iawn yn ein lleoliad ni bod gennym gymaint o adnoddau i hyrwyddo lles y plant a’r staff. Hoffem ddiolch i Dîm Ysgolion Iach Cyngor Wrecsam am eich cymorth.”
Mae’r Cynllun Lleoliadau Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy yn gweithredu ar draws Cymru ac mae’n cael ei reoli gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a’i gefnogi yn lleol gan Dîm Ysgolion Iach Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Llun:
Staff rhes gefn (Ch–Dd) – Miss Karen, Miss Katy, Mrs Griffith, Miss Sue a Mrs Cooke.
Disgyblion (Ch–Dd) – Sigi, Isla, Madeline, Evelyn, Lucian, Elliot, Bodhi, Max, Erin, Kayden, Maja, Maya, Liam, Aubrey, Rohan, Theo, Arlo, Oliver, Gracie a Leo.
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI