Erlyn adeiladwr lleol am adael preswylydd heb ystafell ymolchi
Rhannu
Darllen 7 funud
RHANNU
Plediodd Steven Hughes o 1 Manley Court, Manley Road, Wrecsam LL13 8HE yn euog o ddau drosedd o dan y gyfraith Safonau Masnach yn Llys Ynadon Wrecsam yn ddiweddar. Fe’i gorchmynnwyd i dalu iawndal o £10,000 i’w gwsmer a chafodd hefyd ddirwy a’i orchymyn i dalu costau’r erlyniad o £2117. Cafodd Hughes y gwaith yn wreiddiol ar ôl ymateb i gais ar Facebook am rywun i drwsio landeri. Cododd yr achos ar ôl i ddeiliad y tŷ gwyno nad oedd gwaith a oedd wedi’i gytuno a’i dalu amdano wedi cael ei wneud, neu wedi cael ei wneud i safon mor wael fel ei fod yn ddiwerth. Gwnaed y gŵyn yn dilyn misoedd o oedi ar ôl i ddeiliad y tŷ gysylltu â Hughes yn gyntaf i wneud mân waith trwsio i’r landeri. Wrth drwsio’r landeri edrychodd Hughes ar simneiau’r tŷ a dywedodd wrth y deiliad fod problem ddifrifol gyda’r simneiau a’u bod mewn perygl o ddymchwel. Cytunodd deiliaid y tŷ i dalu am y gwaith i wneud y simneiau’n saff a chytunodd hefyd i Hughes gymryd y gwaith o ailwampio ei hystafell ymolchi drosodd gan y contractwr gwreiddiol ar ôl i Hughes ddweud wrthi nad oedd y contractwr hwnnw’n ffit i wneud y gwaith. Talwyd cyfanswm o £4800 i Hughes dros y cyfnod hwn ond rhoddodd Hughes y gorau i wneud gwaith ar yr eiddo ac ni chafodd yr ystafell ymolchi byth ei gorffen. Daeth adroddiad syrfëwr annibynnol a gomisiynwyd fel rhan o’r ymchwiliad i’r casgliad:
Bod y gwaith allanol o safon wael dros ben ac y codwyd gormod amdano
Bod angen gwaith adferol i’r landeri, y peipiau dŵr a’r simneiau.
Nid oedd y gwaith yn yr ystafell ymolchi wedi’i gwblhau ac roedd yr hyn oedd wedi’i wneud o safon wael dros ben.
Bydd yn rhaid ail-ddechrau’r gwaith ar yr ystafell ymolchi gan sicrhau ei fod yn cael ei wneud yn y drefn gywir.
Mae’r rhan fwyaf o’r arian a dalwyd hyd yma wedi’i wastraffu gan y bydd yn rhaid ail-wneud llawer iawn o’r gwaith am gost ychwanegol.
Nid oedd y contractwr wedi ymgymryd â’r prosiect yn y modd y byddai disgwyl i gontractwr medrus ei wneud.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd: “Mae ffeithiau’r achos hwn yn peri pryder. Mae aelod diamddiffyn o’n cymuned wedi dioddef misoedd o straen ac aflonyddwch yn ei chartref ei hun. Mae hi wedi talu llawer gormod ac wedi’i gadael heb gyfleusterau sylfaenol gan fasnachwr nad oedd yn barod, ac o o bosibl yn analluog i wneud y gwaith yr oedd wedi ymrwymo i’w wneud. Mae’n galonogol gweld bod y llys wedi cymryd y mater hwn o ddifri ac wedi defnyddio ei rym i ddyfarnu’r iawndal hwn i’r dioddefwr, a fydd yn eu galluogi i dalu masnachwr cymwys a dibynadwy i orffen y waith i safon foddhaol. Rwy’n gobeithio y bydd yr achos hwn yn gwneud i unrhyw un sydd â’u bryd ar dwyllo a manteisio ar bob ddiamddiffyn feddwl ddwywaith.” Dywedodd Roger Mapelson, Swyddog Arweiniol Safonau Masnach a Thrwyddedu Cyngor Wrecsam: ”Rwy’n erfyn ar unrhyw un sy’n ystyried cael gwaith wedi’i wneud yn eu heiddo i feddwl yn ofalus dros ben cyn ceisio argymhellion yn y cyfryngau cymdeithasol. Yn ogystal â chael rhai argymhellion dilys rydych hefyd yn debygol o gael eich targedu gan ffug fasnachwyr a fydd yn cymryd eich arian am waith sâl, neu efallai dim gwaith o gwbl. Os ydych yn meddwl am gael gwaith wedi’i wneud ar eich eiddo….
Gofynnwch i’ch ffrindiau, perthnasau a phobl yr ydych yn eu hadnabod ac yn ymddiried ynddynt am argymhellion
Peidiwch â gadael i neb roi pwysau arnoch i wneud penderfyniad a pheidiwch â delio â phobl sy’n galw wrth y drws yn cynnig gwneud gwaith.
Gofalwch bod cyfeiriad llawn a manylion cyswllt y masnachwr gennych.
Gofynnwch am brawf o unrhyw gymwysterau ac aelodaeth sydd ganddynt a chynlluniau adeiladwyr y maent yn rhan ohonynt a chofiwch eu gwirio i sicrhau eu bod yn gywir.
Sicrhewch fod ganddynt yswiriant.
Gofynnwch am gysylltiadau a chyfeiriadau eiddo lle maen nhw wedi gwneud gwaith tebyg fel y gallwch gysylltu â’r unigolion i ddilysu’r hyn y mae’r masnachwyr wedi’i ddweud a safon eu gwaith.
Gallwch wirio eu cyfrifon yn Nhŷ’r Cwmnïau os ydynt yn gwmni cyfyngedig.
Gofynnwch am ddyfynbris ysgrifenedig a chontract, a ddylai gynnwys manylion eich hawl i ganslo o fewn 14 diwrnod.
Peidiwch byth â thalu am y gwaith i gyd ymlaen llaw.
Peidiwch â hysbysebu’n uniongyrchol am adeiladwyr na masnachwyr yn y cyfryngau cymdeithasol a byddwch yn wyliadwrus o unrhyw rai sy’n ymateb yn uniongyrchol i gais am argymhellion.
Os yw’r masnachwr yn gallu dechrau gwneud y gwaith ar unwaith, byddwch yn wyliadwrus
Os oes gennych bryderon am fasnachwr sy’n gwneud, neu sydd wedi gwneud gwaith i chi, gallwch ofyn i Wasanaeth Cwsmeriaid Gyngor ar Bopeth am gyngor ar 0808 223 1144(0808 223 1133 llinell Saesneg) neu fynd i Cysylltu â’r llinell gymorth defnyddwyr – Cyngor ar Bopeth