Mae aelodau staff cwmni gwneuthurwyr cyflenwadau pŵer di-dor lleol, Riello UPS, yn gosod esiampl drwy frwydro i ostwng gwastraff plastig.
Mae’r busnes yn Wrecsam, sy’n cyflenwi cynnyrch pŵer wrth gefn llwyddiannus tu hwnt i ganolfannau data, cwmnïau a sefydliadau’r sector cyhoeddus ar draws y DU, wedi rhoi poteli dur gwrthstaen y gellir eu hailddefnyddio i bob aelod o’r tîm (sy’n cynnwys dros 70 o aelodau) fel rhan o’u hymdrechion i waredu plastigion untro.
Mae’r cwmni hefyd wedi newid eu cyflenwyr llaeth i gwmni newydd ar Lannau Mersi, Milk in a Box. Yn hytrach na photeli a chartonau arferol, mae Riello UPS bellach yn derbyn llaeth ffres mewn bocs cardbord wedi ei leinio â bag Polythen Dwysedd Isel (LDPE).
Unwaith y mae’r rhain wedi’u defnyddio, caiff y cardbord ei ailgylchu a chaiff y bagiau LDPE eu defnyddio i gynhyrchu ynni, sy’n golygu nad oes unrhyw beth yn mynd i safleoedd tirlenwi. Yn seiliedig ar y defnydd cyfartalog presennol o 12 botel laeth 4 peint yr wythnos, gyda phob un yn pwyso 50 gram, mae’r busnes yn credu y bydd yn arbed bron i 600 botel a 30kg o wastraff plastig y flwyddyn.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Yn ogystal â lleihau’r defnydd o blastig, mae’r dull newydd o storio llaeth hefyd yn lleihau gwastraff llaeth. Mae’r llaeth, a gaiff ei storio yn yr oergelloedd a osodwyd yn arbennig, yn para hyd at bum diwrnod ar ôl eu hagor, ac 11 diwrnod heb eu hagor, sy’n golygu cynnydd o 40% ar oes cynhwysydd plastig safonol a gedwir yn yr oergell.
“Mae gwastraff plastig …. yn achosi niwed sylweddol i’r amgylchedd”
Meddai Leo Craig, Rheolwr Gyfarwyddwr Riello UPS: “Mae’r gwastraff plastig y mae bob un ohonom yn ei gynhyrchu yn achosi niwed sylweddol i’r amgylchedd. Gall un botel blastig gymryd bron i 450 o flynyddoedd i bydru’n llwyr.
“Mae’n gyfrifoldeb arnom ni oll i fynd i’r afael â’r broblem hon i ddiogelu ein planed ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
“Mae’r camau yr ydym wedi’u cymryd â’n cyflenwyr llaeth a’r camau i waredu poteli untro oll yn newidiadau bychain i’n bywydau bob dydd, ond pe bai eraill, yn arbennig sefydliadau eraill, yn dilyn ein hesiampl, byddai’r newidiadau bychain hyn yn gwneud byd o wahaniaeth.”
Mae darparu poteli y gellir eu hailddefnyddio a newid cyflenwyr llaeth yn ddwy fenter ymhlith nifer o fentrau gwyrdd eraill y mae Riello UPS wedi’u cyflwyno yn ddiweddar er mwyn lleihau’r defnydd o blastig ar draws y busnes.
“Newid bob un o’u cwpanau plastig untro yn eu Pencadlys yn Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam”
Mae’r rhain yn cynnwys newid bob un o’u cwpanau plastig untro yn eu Pencadlys yn Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam am gynhwysyddion ceramig, newid poteli dŵr plastig a roir i ymwelwyr am fersiynau gwydr y gellir eu hailgylchu, a chael gwared â throwyr plastig gan ddefnyddio cynnyrch bambŵ organig.
Caiff codau plastig a ddefnyddir mewn peiriannau coffi a the hefyd eu rhoi mewn biniau arbennig er mwyn iddynt gael eu hailgylchu mewn swmp.
Ychwanegodd Leo Craig: “Gan ein bod yn gweithio yn y sector ynni, rydym ni oll yn ymwybodol o’r rôl yr ydym ni’n ei chwarae i sicrhau pŵer dibynadwy i fyd cynaliadwy. Mae ein timau R&D yn gweithio’n galed iawn i wella effeithlonrwydd ein cynnyrch ac rydym ni ar flaen y gad o ran systemau storio batri a Chyflenwad Pŵer Di-dor grid clyfar sy’n helpu i annog y defnydd o bŵer ffynonellau adnewyddadwy megis gwynt a solar.
“Ni oedd y gwneuthurwyr UPS cyntaf yn Ewrop i sgorio ein cynnyrch yn ôl eu heffeithlonrwydd drwy ddefnyddio Lefel Ynni Eco sy’n galluogi cwsmeriaid i wneud penderfyniadau gwybodus yn seiliedig ar effaith amgylcheddol eu dewisiadau.”
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Hoffwn ganmol Riello UPS am y fenter arbennig hon. Mae’n rhaid i bob un ohonom gyflawni ein rôl i leihau ein defnydd o blastig, ac mae hyn yn dangos sut y gall camau bychain wneud gwahaniaeth enfawr. Gobeithiaf y bydd cwmnïau eraill yn Wrecsam yn gallu dilyn yr esiampl hon ac arloesi’r ffordd i gyflawni Wrecsam di-blastig.”
Mae Riello UPS wedi darparu cynghorion i ni ar sut i ymdopi heb bŵer – rydym yn hapus i rannu’r cynghorion hyn â chi gan y gall toriadau pŵer ddigwydd yn unrhyw le ar draws y fwrdeistref sirol yn ddirybudd, a gallant gael effaith sylweddol ar weithrediad busnesau a’u gwaelodlin. Mae hyn yn arbennig o berthnasol yn ystod y gaeaf, pan fo problemau pŵer yn fwy tebygol.
- Sicrhewch bod gennych chi dortsh â batris llawn mewn rhywle hwylus. Mae modd prynu goleuadau batri y gellir eu cysylltu i socedau pŵer, bydd y rhain yn dod ymlaen yn awtomatig yn ystod toriad pŵer
- Sicrhewch bod gennych o leiaf un ffôn nad yw’n dibynnu ar y prif gyflenwad pŵer (e.e. ffôn symudol neu hen ffôn llinell dir y gellir ei blygio i mewn.) Mae’r mwyafrif o fodelau modern, di-wifr angen trydan i weithredu.
- Mae radio batri yn ddefnyddiol er mwyn i chi gael y wybodaeth ddiweddaraf os yw’r toriad pŵer yn para am gyfnod hir.
- Gellir defnyddio gwresogyddion cludadwy yn hytrach na systemau gwres canolog, nid yw’r rhain yn gweithio yn ystod toriad pŵer fel arfer. Mae’n rhaid cael pympiau neu systemau rheoli trydanol i weithredu nifer o systemau gwresogi nwy.
- Ceisiwch sicrhau bod gennych o leiaf hanner tanc o danwydd i’ch car. Nid yw pympiau gorsafoedd petrol yn gweithio yn ystod toriad pŵer.
- Sicrhewch bod gennych bŵer wrth gefn ar gyfer unrhyw offer meddygol hanfodol yr ydych yn dibynnu arnynt gartref. Argymhellir hefyd i chi gofrestru ar gyfer y Gwasanaethau â Blaenoriaeth– mae’r gofrestr yn blaenoriaethu pobl ddiamddiffyn a fydd o bosibl yn ymofyn cymorth ychwanegol yn ystod toriad pŵer.
- Dylid diogelu unrhyw ddyfeisiau trydanol sensitif, megis cyfrifiaduron, drwy eu diffodd neu ddefnyddio plwg rheoli ymchwydd i leihau’r perygl o ddifrod pan ddaw’r trydan yn ei ôl.
- Ceisiwch beidio ag agor eich oergell/rhewgell heb fod angen, bydd hyn yn cadw eich bwyd mor iach â phosibl. Dylai bwyd wedi rhewi gadw am tua 8 awr heb unrhyw bŵer.
- Os ydych wedi derbyn rhybudd ymlaen llaw am doriad pŵer, rhowch ddŵr berwedig mewn fflasg. Sicrhewch eich bod wedi gwefru eich ffôn symudol yn ogystal.
- Ychwanegwch y rhif 105 i’ch ffôn symudol. Dyma’r rhif y dylid ei ffonio i roi gwybod i weithredwyr eich rhwydwaith trydan lleol am doriad pŵer.
Bydd gan nifer o sefydliadau gynlluniau wrth gefn a pharhad busnes ar waith sy’n cynnwys darpariaeth ffynonellau pŵer wrth gefn, megis generaduron a systemau UPS i sicrhau bod eu hoffer a’u systemau TG hanfodol yn parhau i weithredu yn ystod toriad pŵer.
Os oes gennych gyflenwad pŵer di-dor ar eich safle, mae’n hollbwysig eich bod yn arbrofi’r batris ac yn cwblhau gwiriadau cyson ar y cyflenwad er mwyn sicrhau y bydd yn gweithio’n ddidrafferth yn ystod toriad pŵer.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN