Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae ailgylchu yn y gweithle yn newid (Ebrill 2024)
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Mae ailgylchu yn y gweithle yn newid (Ebrill 2024)
Busnes ac addysg

Mae ailgylchu yn y gweithle yn newid (Ebrill 2024)

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 5, 2023 12:25 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Workplace Recycling is changing in April 2024
RHANNU

O 6 Ebrill 2024 ymlaen, bydd yn gyfraith i bob busnes, elusen a sefydliad sector cyhoeddus i sortio eu gwastraff er mwyn ei ailgylchu.

Cynnwys
  • Pa wastraff sydd angen ei wahanu
  • I bwy mae’r gyfraith yn berthnasol

Mae hefyd yn gymwys i’r holl gasglwyr a phroseswyr gwastraff a deunydd ailgylchu sy’n rheoli gwastraff gweithleoedd sy’n debyg i wastraff cartrefi.

Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno’r gyfraith hon i wella ansawdd y ffordd rydym yn casglu a gwahanu gwastraff a chynyddu’r gwaith hwn.

Pa wastraff sydd angen ei wahanu

Bydd angen gwahanu’r deunyddiau canlynol i’w casglu ar wahân:

  • Bwyd
  • Papur a cherdyn
  • Gwydr
  • Metelau, plastig a chartonau
  • Tecstilau sydd heb eu gwerthu
  • Cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach sydd heb eu gwerthu (sWEEE)

Bydd gwaharddiad hefyd ar:

  • Anfon unrhyw wastraff bwyd (o ba faint bynnag) i garthffosydd
  • Gwastraff a gesglir ar wahân sy’n mynd i beiriannau llosgi a safleoedd tirlenwi
  • Pob gwastraff pren sy’n mynd i safleoedd tirlenwi

I bwy mae’r gyfraith yn berthnasol

Bydd angen i bob busnes, elusen a sefydliad sector cyhoeddus wahanu eu gwastraff.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Safleoedd amaethyddol
  • Lletygarwch a thwristiaeth – bwytai, bariau, tafarndai, gwasanaethau gwely a brecwast, gwestai, gwersylloedd a pharciau carafanau, llety gwyliau, a safleoedd trwyddedig
  • Meysydd sioe
  • Gorsafoedd gwasanaeth a gorsafoedd petrol
  • Lleoliadau adloniant a chwaraeon gan gynnwys canolfannau hamdden
  • Trafnidiaeth – gorsafoedd bysiau, gorsafoedd rheilffordd, porthladdoedd, meysydd awyr a hofrenfeydd
  • Cartrefi gofal a nyrsio
  • Fferyllfeydd, meddygfeydd, deintyddfeydd, a lleoliadau gofal sylfaenol eraill
  • Safleoedd adeiladu
  • Ffatrïoedd a warysau
  • Garejis ceir
  • Addysg – prifysgolion, colegau ac ysgolion
  • Canolfannau garddio
  • Adeiladau treftadaeth
  • Llyfrgelloedd ac amgueddfeydd
  • Swyddfeydd a gweithdai
  • Mannau addoli
  • Carchardai
  • Marchnadoedd a gwyliau yn yr awyr agored

Yr unig weithle sydd â dwy flynedd ychwanegol i gydymffurfio yw’r GIG ac ysbytai preifat.

Mwy o wybodaeth ar gael yma: https://www.llyw.cymru/ailgylchu-yn-y-gweithle (dolen gyswllt allanol).

Gallwch hefyd ddysgu mwy ar dudalen y Busnes o Ailgylchu Cymru WRAP Cymru.

Gall ein dewisiadau bach helpu i wneud gwahaniaeth – Newyddion Cyngor Wrecsam

Pryd mae fy miniau’n cael eu casglu? Gwiriwch ddiwrnod casglu eich bin a chofrestrwch i gael nodiadau atgoffa.

TAGGED:ailgylchuworkplace recycling
Rhannu
Erthygl flaenorol Mantais gartref i reolwr prosiect ‘Amgueddfa Dau Hanner’ Mantais gartref i reolwr prosiect ‘Amgueddfa Dau Hanner’
Erthygl nesaf Pupils from the Rofft School at Digital Heroes Disgyblion Wrecsam yn Arwyr Digidol

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Wrecsam letters at Erddig
Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig
Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Poppy field
Wrecsam yn Cofio
Digwyddiadau
Hydref 2, 2026
Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Mae rhagolygon gyrfa newydd ychydig o gliciau i ffwrdd! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf...
Busnes ac addysg

Mae rhagolygon gyrfa newydd ychydig o gliciau i ffwrdd! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…

Medi 29, 2026
Cystadleuaeth Dylunio Cymeriad
Busnes ac addysgDigwyddiadauPobl a lle

Lansio cystadleuaeth gelf i blant wrth i ddathliadau’r Flwyddyn o Ryfeddod barhau

Medi 29, 2026
Ysgol I D Hooson
Busnes ac addysg

Gwaith yn Ysgol I D Hooson yn dechrau’n swyddogol

Medi 25, 2026
All Saints School Library Opening
Busnes ac addysgPobl a lle

Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd

Medi 23, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English