Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae arolwg busnes yn anelu i adeiladu ar gynnig gwerth cymdeithasol y rhanbarth
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Mae arolwg busnes yn anelu i adeiladu ar gynnig gwerth cymdeithasol y rhanbarth
Busnes ac addysg

Mae arolwg busnes yn anelu i adeiladu ar gynnig gwerth cymdeithasol y rhanbarth

Diweddarwyd diwethaf: Awst 15, 2024 3:30 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
free workshop, Wrexham businesses, Wrexham business owners, export your website workshop
RHANNU

Mae Uchelgais Gogledd Cymru yn galw ar fusnesau o fewn ei rhanbarth i ymateb i arolwg sy’n canolbwyntio ar werth cymdeithasol, fydd yn ei helpu i ddeall beth yw ymwybyddiaeth, safbwyntiau ac arferion cyflenwyr yn well.

Mae gwerth cymdeithasol yn bwnc cynyddol bwysig ar gyfer pob sector a rhanddeiliaid. Mae’n cyfeirio at yr effaith gymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd sydd gan sefydliadau ar gymunedau lleol a’r gymdeithas ehangach. Mae’r cysyniad yn annog ymgorffori cyfraniad cadarnhaol i les pobl, ochr yn ochr â gweithgareddau busnes dyddiol moesegol, gydag ymdrech wedi’i ganolbwyntio ar wella materion lleol a chynnal pileri y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn eu nodau a strategaethau.

Bydd ymatebion i’r arolwg yn galluogi i Uchelgais Gogledd Cymru fesur dealltwriaeth a safbwyntiau, gweld beth yw’r rhwystrau gweithredu ac adnabod yr arferion gorau. Bydd y canlyniadau yn llywio rhaglen gefnogaeth gydlynus ar gyfer cyflenwyr a hyrwyddo gwerth cymdeithasol yn y rhanbarth dan brosiect cyffrous a arweinid gan y sefydliad, wedi’i ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Bydd canfyddiadau hefyd yn hysbysu dull Uchelgais Gogledd Cymru ei hun i bwysleisio gwerth cymdeithasol o fewn ei brosesau caffael wedi’u adnewyddu. Bydd hyn wrth iddynt barhau i fuddsoddi ym mhortffolio prosiect y Cynllun Twf, sy’n anelu at greu cyfanswm buddsoddiad o dros £1 biliwn ar gyfer Gogledd Cymru, gyda dros 4000 o swyddi newydd a chynnydd GVA o £2.4 biliwn erbyn 2036.

Mae’r holiadur cyfrinachol ar agor tan 5pm ar ddydd Gwener 6 Medi a gellir cael gafael arno drwy.

Dywedodd Daniel Lewis, Swyddog Effaith Ranbarthol a Gwerth Cymdeithasol, Uchelgais Gogledd Cymru:
“Wrth ystyried yr heriau amgylcheddol ac economaidd-gymdeithasol sylweddol yr ydym yn dod ar eu traws, mae gwerth cymdeithasol wedi dod yn bwysicach nag erioed. Mae hefyd ymwybyddiaeth gynyddol bod gan sefydliadau sy’n cael eu gyrru â phwrpas ac yn cyflawni effaith amgylcheddol a chymdeithasol gadarnhaol fantais gystadleuol gynaliadwy yn aml; mae rhanddeiliaid mewnol ac allanol rwan yn anelu’n weithredol at werth cymdeithasol wrth wneud penderfyniadau ac yn eu defnydd. Mae’n rym pwerus ar gyfer newid ac rydym wedi ein cyffroi gyda’r cyfle i gefnogi sefydliadau’r rhanbarth i gyflawni buddiannau, mesur eu heffaith a gwneud y mwyaf o’u cynnig.

“Byddwn yn annog pob cyflenwr i ymateb i’r arolwg. Nid oes atebion cywir nac anghywir, hoffwn glywed gan ehangder o fusnesau, y rheini sydd ond yn cychwyn edrych ar y buddiannau o gyflawni ar werth cymdeithasol, i’r rheini sy’n gweld gwobrau gwirioneddol o’u hymrwymiadau.”

Gall gyflenwyr hefyd gysylltu â Daniel Lewis am fwy o wybodaeth neu drafod ffyrdd o gydweithio.

Rhannu
Erthygl flaenorol Sewing for repair and re-use Dweud eich dweud ar Drywydd Trwsio ac Ailddefnyddio i Gymru
Erthygl nesaf Groundwork Gogledd Cymru ymhlith y 100 o fentrau cymdeithasol gorau am y 5ed flwyddyn yn olynol. Groundwork Gogledd Cymru ymhlith y 100 o fentrau cymdeithasol gorau am y 5ed flwyddyn yn olynol.

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Annog trigolion Wrecsam i ofalu rhag masnachwyr twyllodrus yn dilyn storm Austen
Annog trigolion Wrecsam i ofalu rhag masnachwyr twyllodrus yn dilyn storm Austen
Pobl a lle
Hydref 27, 2026
Yr Actor Cymreig Rhys Ifans yn cefnogi cais Wrecsam i fod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2029
Yr Actor Cymreig Rhys Ifans yn cefnogi cais Wrecsam i fod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2029
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 27, 2026
Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Y cyngor Digwyddiadau Pobl a lle
Hydref 26, 2026
All Saints School fundraising activities
Disgyblion Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn rhedeg, yn pobi ac yn gwneud gwahaniaeth at achos da
Pobl a lle Busnes ac addysg
Hydref 26, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Busnes ac addysg

Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam

Hydref 23, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Sam Gardner
DigwyddiadauArallBusnes ac addysg

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 22, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg

Datblygu arloesi ffresni bwyd

Hydref 20, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English