Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae cysylltiadau LEGO® hanesyddol Wrecsam yn cael eu dathlu mewn arddangosfa amgueddfa newydd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Mae cysylltiadau LEGO® hanesyddol Wrecsam yn cael eu dathlu mewn arddangosfa amgueddfa newydd
Pobl a lle

Mae cysylltiadau LEGO® hanesyddol Wrecsam yn cael eu dathlu mewn arddangosfa amgueddfa newydd

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 3, 2022 4:43 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Mae cysylltiadau LEGO® hanesyddol Wrecsam yn cael eu dathlu mewn arddangosfa amgueddfa newydd
RHANNU

Brics Bychain: Dewch i weld y byd wedi’i adeiladu  brics LEGO®

Cynnwys
  • Tirnod enwog Wrecsam i’w gynnwys
  • Ydych chi’n adnabod rhywun oedd yn gweithio yn y ffatri?
  • Cynlluniwch eich ymweliad

Maen nhw’n un o’r cwmnïau tegannau mwyaf adnabyddus a llwyddiannus yn y byd – ond oeddech chi’n gwybod bod brics LEGO® yn arfer cael eu gweithgynhyrchu yma yn Wrecsam?

I ddechrau cynhyrchwyd y brics byd-enwog mewn ffatri ar Hugmore Lane ar Stad Ddiwydiannol Wrecsam. Yn ddiweddarach adeiladodd LEGO ganolfan ddosbarthu newydd yn y DU ar Ffordd Rhuthun.

Mae llawer o bobl leol yn dal i gofio safle Ffordd Rhuthun yn arbennig. Pwy allai anghofio’r brics LEGO anferth, eiconig a oedd unwaith yn sefyll wrth ymyl y fynedfa?

I ddathlu’r cysylltiad hanesyddol hwn rhwng Wrecsam a’r gwneuthurwr teganau o Ddenmarc bydd Amgueddfa Wrecsam yn cynnal Brics Bychain, arddangosfa deithiol gan Warren Elsmore sy’n cynnwys modelau ei dîm o adeiladau, henebion a strwythurau enwog wedi’u gwneud o frics LEGO.

Bydd yr arddangosfa’n cynnwys amgueddfa LEGO Warren Elsmore yn cynnwys modelau a chynnyrch o flynyddoedd cynnar y cwmni hyd at heddiw.

Yn naturiol, bydd ardal yn yr oriel lle gallwch chi adeiladu eich modelau LEGO eich hun. Edrychwch hefyd am newyddion am y diwrnodau digwyddiadau arbennig yn ystod yr arddangosfa!

Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.

 

Mae cysylltiadau LEGO® hanesyddol Wrecsam yn cael eu dathlu mewn arddangosfa amgueddfa newydd
Mae cysylltiadau LEGO® hanesyddol Wrecsam yn cael eu dathlu mewn arddangosfa amgueddfa newydd
Mae cysylltiadau LEGO® hanesyddol Wrecsam yn cael eu dathlu mewn arddangosfa amgueddfa newydd

Tirnod enwog Wrecsam i’w gynnwys

Uchafbwynt yr arddangosfa fydd y model sy’n dathlu rhyfeddod peirianneg sifil oes y gamlas, ein Safle Treftadaeth y Byd lleol, Traphont Ddŵr Pontcysyllte, a grëwyd yn benodol ar gyfer yr arddangosfa hon.

Mae myfyrwyr dylunio Prifysgol Glyndŵr hefyd yn cyfrannu ffilm a model o adeilad Ysgol y Celfyddydau Creadigol i’w harddangos yn yr arddangosfa.

Ydych chi’n adnabod rhywun oedd yn gweithio yn y ffatri?

Mae ymchwil wedi bod yn mynd rhagddo i hanes British Lego Ltd. a LEGO®UK. Ers ein hapêl yn gynharach yn y flwyddyn, mae cyn-weithwyr wedi helpu’r amgueddfa i gynnwys hanes LEGO yn Wrecsam yn yr arddangosfa. Os oeddech chi’n gweithio yn y ddau safle neu’n gysylltiedig â nhw, ac nad ydych chi wedi cysylltu eto, anfonwch e-bost at amgueddfa@wrexham.gov.uk

Uchafbwynt go iawn i bob oed

Meddai’r Cyng. Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol Cyngor Wrecsam:: “Mae Brics Bychain ar fin bod yn un o uchafbwyntiau’r flwyddyn hyd yn hyn i ymwelwyr ag amgueddfeydd.

“Mae yna berlau go iawn o’r archif i’w gweld yma i’r rhai sy’n cofio’r ffatri ar Ffordd Rhuthun ac ar y Stad Ddiwydiannol.

“Mae’r arddangosfa hefyd yn ddelfrydol ar gyfer ymweliadau teuluol – mae modelau gwych Warren Elsmore o henebion enwog yn hanfodol i bob oed.

“Rwy’n gobeithio y bydd pawb yn gwneud y mwyaf o’r cyfle unigryw hwn i ddarganfod mwy am sut yr oedd Wrecsam yn rhan o stori’r brand byd-eang hynod lwyddiannus hwn.”

Cynlluniwch eich ymweliad

  • Bydd Brics Bychain i’w gweld o 18 Chwefror tan – 7 Mai 2020.
  • Mae mynediad AM DDIM.
  • Ewch i wefan Amgueddfa Wrecsam i gael rhagor o wybodaeth am arddangosfeydd a digwyddiadau sydd i ddod.

Delwedd: Trwy garedigrwydd Warren Elsmore.

Os ydych chi’n chwilio am yrfa newydd ac os hoffech chi helpu pobl yn eich cymuned, ystyriwch swydd gofal cymdeithasol.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/service/care_jobs_in_wrexham”]DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Magi Ann Ysgol Llan-y-Pwll – Cyfle i ddarganfod mwy am addysg cyfrwng Cymraeg yn Tŷ Pawb ddydd Sadwrn 12 – 2
Erthygl nesaf Gaeaf Llawn Lles Gaeaf Llawn Lles

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysg Pobl a lle
Hydref 21, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle

Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn

Hydref 20, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
Ty Pawb and Pittsburgh University
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English