Mae’r calendrau ailgylchu bin ac ailgylchu newydd ar gyfer 2022-23 bellach ar ein gwefan ac maent yn edrych ychydig yn wahanol i’r llynedd.
Roeddem eisiau sicrhau eu bod yn fwy hygyrch, felly mae’r calendrau bellach yn cynnwys tri thabl, gyda phob tabl yn dangos y biniau ac ailgylchu y byddwn ni’n eu casglu ar y diwrnodau penodol.
Mae’r tabl cyntaf yn dangos y diwrnodau rydym ni’n casglu Gwastraff, Ailgylchu a Gwastraff Bwyd, mae’r ail yn dangos y diwrnodau rydym yn casglu Gwastraff Gardd (os ydych wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth), Gwastraff Ailgylchu a Bwyd, ac mae’r trydydd yn dangos ychydig ddiwrnodau dros y gaeaf rydym ni’n casglu dim ond eich Ailgylchu a’ch Gwastraff Bwyd.
Mae ein calendrau casgliadau biniau ac ailgylchu newydd a gwell bellach ar gael
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Roeddem eisiau gwneud calendrau’r biniau yn haws i bawb eu dilyn, felly fe sylwch chi eu bod yn edrych ychydig yn wahanol y tro hwn. Gallwch weld eich calendr drwy fynd i wrecsam.gov.uk/service/pryd-mae-fy-miniaun-cael-eu-casglu; mae’n ffordd hawdd iawn o weld yr holl wybodaeth am gasgliadau yn gyflym, a bydd yn eich atal rhag methu unrhyw gasgliadau.”
Pethau i’w nodi
- Bydd eich diwrnod casglu yn aros yr un fath
- Bydd casgliadau gwastraff yn cael eu lleihau yn ystod misoedd y gaeaf ym mis Rhagfyr, Ionawr a Chwefror. Bydd casgliadau bob pythefnos yn ailgychwyn eto ym mis Mawrth.
- Ni fydd casgliadau ar 26 na 27 Rhagfyr eleni, er bydd modd i breswylwyr yr effeithir arnynt roi eu hailgylchu a gwastraff bwyd ychwanegol allan yr wythnos ganlynol.
Derbyn rhybudd yn eich atgoffa i roi eich bin allan
Gallwch hefyd, gofrestru i gael rhybudd e-bost. Cânt eu hanfon y diwrnod cyn eich diwrnod casglu i’ch atgoffa i roi eich bin allan, a pha un i’w roi allan.
Ydych chi am gael y negeseuon hyn? Cliciwch ar y botwm isod.
DERBYN RHYBUDD YN EICH ATGOFFA I ROI EICH BIN ALLAN