Mae hi’n Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb ac rydym ni’n gwybod y bydd llawer ohonoch chi’n awyddus i rannu’r neges felly dyma sut allwch chi helpu:
- Gwrando – Os bydd unrhyw un yn dweud wrthoch chi eu bod wedi dioddef trosedd casineb, gwrandwch ar eu stori a’u hannog i’w riportio.
- Riportio – Os ydych chi’n ei weld yn digwydd, ewch ati i’w riportio… Does dim rhaid i chi fod yn ddioddefwr i’w riportio.
- Rhannu – rhannwch negeseuon drwy’r wythnos am atal troseddau casineb.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Cymryd rhan ym “Meddwl Gyda’n Gilydd 2021” i helpu i atal troseddau casineb
Gallwch hefyd ymuno â Hate Crime Victim Support, Heddlu Gogledd Cymru a Thîm Cydlyniant Rhanbarthol Gogledd Ddwyrain Cymru ar 21 Hydref ar gyfer Meddwl Gyda’n Gilydd 2021 – fforwm rhyngweithiol i rannu syniadau ac adnoddau i atal troseddau casineb yn Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych.
Mae Meddwl Gyda’n Gilydd yn cydnabod bod atal troseddau casineb yn dechrau trwy feithrin dealltwriaeth gynhwysol o amrywiaeth, a thrwy adeiladu cadernid yn erbyn camsyniadau a gwybodaeth anghywir, niweidiol.
Mae’r fforwm hwn yn rhoi cyfle i bawb yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, gan gynnwys partneriaid cymunedol a darparwyr gwasanaeth, rannu sut rydym yn gweithio gyda’n gilydd i gyflawni hynny – beth sy’n gweithio’n dda; beth sydd angen ei newid; ac ym mha ffyrdd newydd y gallwn weithio i wneud ein cymunedau’n fwy diogel.
Cysylltwch â gareth.hall@wrexham.gov.uk i archebu lle.
Riportio troseddau casineb
I’w riportio dros y ffôn, ffoniwch 101. I’w riportio ar-lein, ewch i https://www.reporthate.victimsupport.org.uk neu alw heibio i unrhyw orsaf heddlu os ydych chi’n dymuno siarad â swyddog wyneb yn wyneb.
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL