Llongyfarchiadau i Paul Wynn sydd wedi ennill cystadleuaeth ffotograffiaeth #gwirioniarddiwylliant18 (#culturevulture18) Europe Direct gyda’r llun bendigedig hwn o Eglwys y Plwyf Wrecsam.
Lansiodd Europe Direct, Wrecsam y gystadleuaeth ar gyfryngau cymdeithasol ym mis Gorffennaf eleni gan wahodd pobl i anfon lluniau roeddent yn teimlo oedd yn dangos treftadaeth Wrecsam. Ymhlith y cannoedd o gynigion, roedd un Paul yn sefyll allan.
GALL Y DDAU GAM SYML YMA TROI CHI MEWN I ARCHARWR AILGYLCHU!
Cafwyd sawl ffotograff o Eglwys y Plwyf yn y gystadleuaeth, ond roedd y llun mewnol hwn yn cynnig rhywbeth hollol wahanol. Mae wedi ei gymryd o safle anarferol yn yr eglwys ac yn adlewyrchu’r cysylltiadau sydd gan yr eglwys gyda sawl adran o’r gymuned leol gan gynnwys y lluoedd arfog.
Derbyniodd Paul ei wobr gan Lynn Partington yn Europe Direct, a gyflwynodd daleb siopa gwerth £50 a bag nwyddau iddo yn llawn eitemau Europe Direct fel beiro, pensil, potel ddŵr a pwerydd ffonau.
Sut i fod yn archarwr ailgylchu…mewn dau gam syml.
DERBYNIWCH AWGRYMIADAU AILGYLCHU