Fel rhan o’n datblygiad parhaus o Adeiladau’r Goron, hoffem ni gael rhywfaint o fewnbwn gennych chi.
Y bwriad yw i’r adeiladau ddod yn gyfleuster Iechyd a Lles Cymunedol, a hoffem i’ch mewnbwn a’ch gwybodaeth ei siapio.
Mae Safonau Gwasanaethau Wrecsam wedi creu holiadur ar y cyd â thrigolion a defnyddwyr gwasanaeth ag anghenion cymorth.
Fersiwn Cymraeg YMA
Fersiwn Cymraeg hawdd i ddarllen YMA
Dywedodd y Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol dros Ofal Cymdeithasol i Oedolion “Mae’n bwysig iawn cael mewnbwn gan y gymuned a fydd yn defnyddio’r adeilad fel y gellir ei gynllunio i weddu orau ar gyfer anghenion pawb.”
Os gallwch chi sbario ychydig funudau a rhannu ychydig o syniadau, plîs cwblhewch yr holiadur ini.
Mae’r Holiadur yn cynnwys y cwestiynau canlynol:
Pa bethau sy’n dda i bobl sydd ag anableddau yn Wrecsam?
Beth hoffech chi weld mwy ohono?
Beth sydd ar goll i bobl sydd ag anableddau yn Wrecsam?
Sut ydych yn meddwl gallwn wella?
Beth ddylem wneud nesaf?
Fersiwn Cymraeg YMA
Fersiwn Cymraeg hawdd i ddarllen YMA