Cafodd disgyblion mewn sawl ysgol ledled Wrecsam arddangosfa BMX ysblennydd ar ôl dangos eu hymrwymiad i gerdded a beicio!
Roedd The Big Walk and Wheel yn ddigwyddiad cenedlaethol a drefnwyd gan Sustrans yn gynharach eleni.
Roedd yn herio ysgolion ledled y DU i weld faint o deithiau cerdded a beicio y gallai eu disgyblion eu gwneud dros gyfnod o wythnos.
Y nod oedd lleihau traffig a gwella ansawdd aer o amgylch ysgolion, ac ysbrydoli plant a rhieni i gofleidio manteision iechyd a lles teithio ar droed neu feic.
Cofnododd ysgolion Wrecsam a gymerodd ran filoedd o deithiau cerdded a beicio rhyngddynt.
Roedd yr ysgolion a gymerodd ran yn cynnwys:
- Ysgol Bro Alun
- Ysgol Gynradd Fictoria
- Ysgol Pen y Gelli
- Ysgol Llan Y Pwll (babanod)
- Ysgol y Santes Fair Brynbo
- Ysgol Gynradd yr Holl Saint
- Ysgol Gynradd Holt
Ysgol Gynradd Holt enillodd y sgôr uchaf yn Wrecsam, gyda 77% o ddisgyblion yn cymryd rhan a’r ysgol yn safle 25 yn y DU yn y ‘categori ysgolion cynradd bach iawn.’
Ar y brig yn y ‘categori ysgolion cynradd mawr’ ar gyfer Wrecsam roedd yr Holl Saint yng Ngresffordd, gyda 51.9% o ddisgyblion yn cymryd rhan.
Yr wythnos hon, i wobrwyo eu hymdrechion, mae plant ym mhob un o’r saith ysgol yn Wrecsam yn cael cyfle i fwynhau arddangosfa sgleiniog o styntiau a thriciau gan y meistr BMX Matti Hemmings.
Yn ddeiliad Record Byd Guinness deirgwaith, yn Bencampwr Ewropeaidd ac yn Bencampwr y DU bum gwaith, mae Matti wedi cystadlu a pherfformio ledled y byd.
Meddai: “Rydyn ni’n cael sbri yn ein wythnos yma yn Wrecsam – mae’r plant a’r staff yn wych ac mor frwdfrydig, ac rwy’n dangos iddyn nhw rai o fy hoff driciau a styntiau!
“Mae faint o gerdded a beicio a wnaeth y myfyrwyr a’r rhieni yn ystod The Big Walk and Wheel wedi creu argraff fawr arnaf – maen nhw’n gwneud ymdrech enfawr a gobeithio y byddant yn cael eu hysbrydoli i gerdded a beicio mwy yn y dyfodol.”
Mae’r sioeau BMX yn cael eu hariannu drwy gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, a weinyddir gan Trafnidiaeth Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wyn, Aelod Arweiniol Wrecsam dros Addysg: “Da iawn i’r holl ysgolion a gymerodd ran yn The Big Walk and Wheel.
“Rhyngddynt, cofnododd ein hysgolion 4,341 o deithiau ar droed neu feic yn ystod yr wythnos honno, sy’n anhygoel.
“Fel cyngor, rydyn ni eisiau i rieni a disgyblion gerdded a beicio mwy os gallant. Rydyn ni’n gwybod nad yw bob amser yn bosibl, ond bob tro rydyn ni’n gadael y car ar ôl, mae’n helpu i leihau traffig a pharcio, ac yn helpu i wneud gatiau’r ysgol yn lle glanach a mwy diogel i bawb.
“Gall cerdded a beicio hefyd fod yn llawer o hwyl, ac yn dda i’n hiechyd a’n lles.”