Y peth cyntaf i’w wneud yw eu newid nhw gyda rhai newydd, ond beth ddylech wneud gyda’r hen fatris?
Os oes gennych boteli plastig gwag, jariau gwydr neu focsys cardbord, gallwch eu hailgylchu nhw, ond dylech wybod bod digon o ffyrdd y gallwch ailgylchu eich hen fatris hefyd 🙂
EISIAU MWY O AWGRYMIADAU A GWYBODAETH? COFRESTRWCH I DDERBYN EIN CYLCHLYTHYRAU AILGYLCHU AR E-BOST…
Yn gyntaf, gallwch ailgylchu eich batris yn unrhyw un o’n tri Chanolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref. Mae ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn:
Lôn y Bryn, Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam
Banc Wynnstay, Plas Madoc
Y Lodge, Brymbo
Yn ogystal â batris o’ch teclyn rheoli o bell, gallwch hefyd ailgylchu…HOLL FATHAU o fatris yn ein tri chanolfan ailgylchu, hyd yn oed batris car 🙂
Fodd bynnag, os mai batris o nwyddau cartref bob dydd yn unig yr ydych angen eu hailgylchu, dylech gael y dewis i’w hailgylchu yn eich siop leol hefyd, os yw hynny’n fwy cyfleus i chi.
Ers mis Chwefror 2010, rhaid i siopau sy’n gwerthu mwy na 32kg o fatris bob blwyddyn (tua 345 x batris AA mewn pecyn o bedwar) ddarparu cyfleusterau ailgylchu batris yn y siop… felly mae’r holl archfarchnadoedd a masnachwyr mawr yn darparu’r rhain.
Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae batris yn rhywbeth nad ydych yn newid yn aml, ond pan ydych chi, mae’n bwysig gwybod y gallwch ailgylchu eich hen fatris yn unrhyw un o’n canolfannau ailgylchu…ac mae gan nifer o siopau mawr gyfleusterau ailgylchu batris hefyd.”
Felly os oes gennych fatris AA, AAA, rhai crwn, rhai lithiwm neu unrhyw fathau eraill o fatris, mae dewis llawer gwell i chi na’u taflu nhw yn eich bin du 🙂
Eisiau mwy o awgrymiadau a gwybodaeth? Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyrau ailgylchu ar e-bost…
COFRESTRU