Mae Swyddogion Safonau Masnach Wrecsam wedi bod yn gweithio gyda Op CeCe, Tîm Amharu Tybaco Cymru ac Op Blackspear, sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â chyflenwad fêps anghyfreithlon.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Wrecsam wedi gweld cynnydd enfawr mewn masnachwyr yn gwerthu cynnyrch tybaco anghyfreithlon, ac yn ddiweddar, fêps anghyfreithlon. Er gwaethaf ymdrechion Swyddogion Safonau Masnach Wrecsam wrth geisio ymgysylltu gyda manwerthwyr i sicrhau mai dim ond cynnyrch cyfreithlon sy’n cael ei werthu, mae miloedd o gynnyrch tybaco a fêps anghyfreithlon yn cael eu dal. Fel rhan o’r ymdrech i roi terfyn ar gyflenwad nwyddau anghyfreithlon, mae rhai manwerthwyr wedi cael rhybudd 3 mis i gau gan y llysoedd am eu methiant i ddilyn cyngor a chanllawiau.
Fel rhan o weithrediad Blackspear, mae Safonau Masnach Wrecsam wedi anfon symiau mawr o gynnyrch tybaco anghyfreithlon a fêps anghyfreithlon i ailgylchu, gyda gwerth ar y stryd o dros £85,000.
TYBACO ANGYFREITHLON
Mae tybaco anghyfreithlon fel arfer ar gael am lai na hanner pris tybaco cyfreithlon. Mae’r prisiau isel ac argaeledd y cynnyrch i ysmygwyr dan oed yn ei gwneud yn llawer haws i blant ddechrau dibynnu arno ac yn gwneud pethau’n anoddach i ysmygwyr sy’n ceisio rhoi gorau iddi. Mae bron i 6,000 o bobl yn marw yng Nghymru bob blwyddyn yn sgil cyflyrau sy’n gysylltiedig ag ysmygu ac mae ysmygu’n achosi mwy o farwolaethau cynamserol yng Nghymru a’r DU nag unrhyw beth arall.
Mae fêpio wedi dod yn fwy a mwy poblogaidd yn ystod y deng mlynedd ddiwethaf ac fe’i cydnabyddir yn eang fel ffordd effeithiol o roi’r gorau i ysmygu tybaco. Fodd bynnag, yn fwy diweddar, mae diddordeb mewn fêps tafladwy wedi ffrwydro ac mae pobl sydd erioed wedi ysmygu yn rhoi cynnig arnynt. Mae’n anghyfreithlon gwerthu cynnyrch fêp i rai dan 18 oed, ond er hyn, mae fêps wedi dod yn boblogaidd ymysg pobl ifanc ac mae llawer o’r cynnyrch sydd ar gael yn apelio i blant gyda’u blas melys a phecynnu llachar. Mae rhai cynnyrch anghyfreithlon wedi defnyddio enwau fferins poblogaidd i’w hyrwyddo hyd yn oed.
NID YW DEFNYDDIO FÊPS HEB EI RISGIAU
Er bod honiadau ei fod yn llawer llai niweidiol nag ysmygu tybaco, nid yw defnyddio fêps heb ei risgiau chwaith. Oherwydd hynny, mae’r gyfraith yn gosod cyfyngiadau penodol ar fêps tafladwy gydag uchafswm capasiti ac uchafswm cryfder nicotin. Mae gofynion labelu llym hefyd. Roedd fêps anghyfreithlon fel y rhai a ddarganfuwyd yn groes i’r cyfyngiadau hyn gan achosi niwed sylweddol posibl i iechyd y bobl oedd yn eu defnyddio.
Dywedodd yr Aelod Arweiniol Gwarchod y Cyhoedd, y Cynghorydd Hugh Jones, “Mae’r cynnydd cyflym yn nifer y bobl a phlant sydd erioed wedi ysmygu ond sy’n defnyddio fêps yn peri pryder mawr ac mae’n dda gweld bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ystyried deddfwriaeth newydd i fynd i’r afael â’r broblem.
“Mae gwerthu cynnyrch anghyfreithlon ein cymuned yn peri pryder penodol ac ni fyddwn yn meddwl ddwywaith cyn defnyddio’r grym cyfreithiol sydd gennym i amddiffyn iechyd a lles ein pobl ifanc. “Rwyf yn croesawu’r gweithredoedd a gymerwyd gan Safonau Masnach, ac rwy’n gobeithio y bydd hyn yn gwneud i fanwerthwyr sy’n parhau i werthu nwyddau anghyfreithlon heb ystyried y niwed y gallant ei achosi i iechyd defnyddwyr feddwl ddwywaith.”
Os ydych am adrodd am werthwyr tybaco neu fêps anghyfreithlon yn eich ardal, gallwch wneud hynny’n ddienw drwy gysylltu ag ymgyrch No Ifs – No Butts ar 029 2049 0621 neu anfon neges e-bost at info@noifs-nobutts.co.uk neu ar eu gwefan – https://noifs-nobutts.co.uk/