Mae cynllun arloesol Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru i ddarparu teclynnau iPad i breswylwyr cartrefi gofal yn Wrecsam wedi cyrraedd.
Bydd y teclynnau iPad yn helpu preswylwyr i gadw mewn cysylltiad gyda ffrindiau a theulu tra bod ymweliadau wedi cael eu cyfyngu yn ystod y Coronafeirws.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Mae’r teclynnau wedi cael eu dosbarthu i nifer o gartrefi gofal yn ardal Wrecsam, ac mae mwy ar y ffordd.
Darllenwch yr adborth ffantastig yma gan rai o’r Cartrefi Gofal sydd wedi derbyn eu teclynnau iPad…
Dywedodd Gary, Rheolwr Cartref Gofal Ashgrove yng Ngresffordd, “Diolch yn fawr am adael i ni gael iPad, mae ein preswylwyr yn cael gweld eu perthnasau ar ‘FaceTime’, ac roedd modd i ni ddefnyddio’r iPad i ddathlu Diwrnod VE yn ddiweddar.”
Dywedodd Sue Barton, Rheolwraig yn Oak Alyn yng Nghefn y Bedd, “Mae’r teclynnau iPad wedi gwneud gwahaniaeth mawr i breswylwyr yma yn Oak Alyn. Mae un o’n preswylwyr wedi gallu ei defnyddio i gael sgwrs gyda’i phlant ar yr un pryd ar FaceTime, mae un yn byw yn Wrecsam a’r llall yn Hong Kong – roedd hynny’n wych. Roedd modd i breswylydd arall ddefnyddio FaceTime gyda’u perthynas yn Awstralia, doedden nhw heb weld eu gilydd ers 8 mlynedd – roedd honno’n alwad emosiynol iawn!!”
Dywedodd Katie Williams, Cydlynydd Gweithgareddau yng Nghartref Gofal Lindan House, “Am wahaniaeth y mae hyn wedi’i wneud i’r preswylwyr, yn ogystal â gallu cadw mewn cysylltiad â’u teuluoedd, rydym wedi gallu lawrlwytho rhywfaint o weithgareddau ar yr iPad er mwyn i breswylwyr fwynhau a chymryd rhan, ac maen nhw wirioneddol yn mwynhau, mae un o’n preswylwyr wedi bod yn cyd-ganu i Bohemian Rhapsody gan Queen!!”
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19